Add parallel Print Page Options

Gweddi Dafydd.

86 Gostwng, O Arglwydd, dy glust, gwrando fi: canys truan ac anghenus ydwyf. Cadw fy enaid; canys sanctaidd ydwyf: achub di dy was, O fy Nuw, yr hwn sydd yn ymddiried ynot. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys arnat y llefaf beunydd. Llawenha enaid dy was: canys atat ti, Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. Canys ti, O Arglwydd, ydwyt dda, a maddeugar; ac o fawr drugaredd i’r rhai oll a alwant arnat. Clyw, Arglwydd, fy ngweddi; ac ymwrando â llais fy ymbil. Yn nydd fy nghyfyngder y llefaf arnat: canys gwrandewi fi. Nid oes fel tydi ymysg y duwiau, O Arglwydd; na gweithredoedd fel dy weithredoedd di. Yr holl genhedloedd y rhai a wnaethost a ddeuant, ac a addolant ger dy fron di, O Arglwydd; ac a ogoneddant dy enw. 10 Canys ydwyt fawr, ac yn gwneuthur rhyfeddodau: ti yn unig wyt Dduw. 11 Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd; mi a rodiaf yn dy wirionedd: una fy nghalon i ofni dy enw. 12 Moliannaf di, O Arglwydd fy Nuw, â’m holl galon: a gogoneddaf dy enw yn dragywydd. 13 Canys mawr yw dy drugaredd tuag ataf fi: a gwaredaist fy enaid o uffern isod. 14 Rhai beilchion a gyfodasant i’m herbyn, O Dduw, a chynulleidfa y trawsion a geisiasant fy enaid; ac ni’th osodasant di ger eu bron. 15 Eithr ti, O Arglwydd, wyt Dduw trugarog a graslon; hwyrfrydig i lid, a helaeth o drugaredd a gwirionedd. 16 Edrych arnaf, a thrugarha wrthyf: dyro dy nerth i’th was, ac achub fab dy wasanaethferch. 17 Gwna i mi arwydd er daioni: fel y gwelo fy nghaseion, ac y gwaradwydder hwynt; am i ti, O Arglwydd, fy nghynorthwyo a’m diddanu.