Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Can neu Salm.

66 Llawenfloeddiwch i Dduw, yr holl ddaear: Datgenwch ogoniant ei enw: gwnewch ei foliant yn ogoneddus. Dywedwch wrth Dduw, Mor ofnadwy wyt yn dy weithredoedd! oherwydd maint dy nerth, y cymer dy elynion arnynt fod yn ddarostyngedig i ti. Yr holl ddaear a’th addolant di, ac a ganant i ti; ie, canant i’th enw. Sela. Deuwch, a gwelwch weithredoedd Duw: ofnadwy yw yn ei weithred tuag at feibion dynion. Trodd efe y môr yn sychdir: aethant trwy yr afon ar draed: yna y llawenychasom ynddo. Efe a lywodraetha trwy ei gadernid byth; ei lygaid a edrychant ar y cenhedloedd: nac ymddyrchafed y rhai anufudd. Sela. O bobloedd, bendithiwch ein Duw, a pherwch glywed llais ei fawl ef: Yr hwn sydd yn gosod ein henaid mewn bywyd, ac ni ad i’n troed lithro. 10 Canys profaist ni, O Dduw: coethaist ni, fel coethi arian. 11 Dygaist ni i’r rhwyd: gosodaist wasgfa ar ein llwynau. 12 Peraist i ddynion farchogaeth ar ein pennau; aethom trwy y tân a’r dwfr: a thi a’n dygaist allan i le diwall. 13 Deuaf i’th dŷ ag offrymau poeth: talaf i ti fy addunedau, 14 Y rhai a adroddodd fy ngwefusau, ac a ddywedodd fy ngenau yn fy nghyfyngder. 15 Offrymaf i ti boethoffrymau breision, ynghyd ag arogl‐darth hyrddod; aberthaf ychen a bychod. Sela. 16 Deuwch, gwrandewch, y rhai oll a ofnwch Dduw; a mynegaf yr hyn a wnaeth efe i’m henaid. 17 Llefais arno â’m genau, ac efe a ddyrchafwyd â’m tafod. 18 Pe edrychaswn ar anwiredd yn fy nghalon, ni wrandawsai yr Arglwydd. 19 Duw yn ddiau a glybu, ac a wrandawodd ar lais fy ngweddi. 20 Bendigedig fyddo Duw, yr hwn ni throdd fy ngweddi oddi wrtho, na’i drugaredd ef oddi wrthyf finnau.