Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Susan‐eduth, Michtam Dafydd, i ddysgu; pan ymladdodd yn erbyn Syriaid Mesopotamia, a Syriaid Soba, pan ddychwelodd Joab, a lladd deuddeng mil o’r Edomiaid yn nyffryn yr halen.

60 O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel atom drachefn. Gwnaethost i’r ddaear grynu, a holltaist hi: iachâ ei briwiau; canys y mae yn crynu. Dangosaist i’th bobl galedi: diodaist ni â gwin madrondod. Rhoddaist faner i’r rhai a’th ofnant, i’w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Sela. Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf: rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. Eiddof fi yw Gilead, ac eiddof fi Manasse: Effraim hefyd yw nerth fy mhen; Jwda yw fy neddfwr. Moab yw fy nghrochan golchi; dros Edom y bwriaf fy esgid: Philistia, ymorfoledda di o’m plegid i. Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m harwain hyd yn Edom? 10 Onid tydi, Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? a thydi, O Dduw, yr hwn nid ait allan gyda’n lluoedd? 11 Moes i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys ofer yw ymwared dyn. 12 Yn Nuw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.