Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd ar Neginoth ar y Seminith, Salm Dafydd.

Arglwydd, na cherydda fi yn dy lidiowgrwydd, ac na chosba fi yn dy lid. Trugarha wrthyf, Arglwydd: canys llesg ydwyf fi: iachâ fi, O Arglwydd; canys fy esgyrn a gystuddiwyd. A’m henaid a ddychrynwyd yn ddirfawr: tithau, Arglwydd, pa hyd? Dychwel, Arglwydd, gwared fy enaid: achub fi er mwyn dy drugaredd. Canys yn angau nid oes goffa amdanat: yn y bedd pwy a’th folianna? Diffygiais gan fy ochain; bob nos yr ydwyf yn gwneuthur fy ngwely yn foddfa: yr ydwyf fi yn gwlychu fy ngorweddfa â’m dagrau. Treuliodd fy llygad gan ddicter: heneiddiodd oherwydd fy holl elynion. Ciliwch oddi wrthyf, holl weithredwyr anwiredd: canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain. Clybu yr Arglwydd fy neisyfiad: yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. 10 Gwaradwydder a thralloder yn ddirfawr fy holl elynion: dychweler a chywilyddier hwynt yn ddisymwth.