Add parallel Print Page Options

I’r Pencerdd, Salm Dafydd, gwas yr Arglwydd, yr hwn a lefarodd wrth yr Arglwydd eiriau y gân hon, yn y dydd y gwaredodd yr Arglwydd ef o law ei holl elynion, ac o law Saul: ac efe a ddywedodd,

18 Caraf di, Arglwydd fy nghadernid. Yr Arglwydd yw fy nghraig, a’m hamddiffynfa, a’m gwaredydd; fy Nuw, fy nghadernid, yn yr hwn yr ymddiriedaf; fy nharian, a chorn fy iachawdwriaeth, a’m huchel dŵr. Galwaf ar yr Arglwydd canmoladwy: felly y’m cedwir rhag fy ngelynion. Gofidion angau a’m cylchynasant, ac afonydd y fall a’m dychrynasant i. Gofidiau uffern a’m cylchynasant: maglau angau a achubasant fy mlaen. Yn fy nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd, ac y gwaeddais ar fy Nuw: efe a glybu fy llef o’i deml, a’m gwaedd ger ei fron a ddaeth i’w glustiau ef. Yna y siglodd ac y crynodd y ddaear; a seiliau y mynyddoedd a gynhyrfodd ac a ymsiglodd, am iddo ef ddigio. Dyrchafodd mwg o’i ffroenau, a thân a ysodd o’i enau: glo a enynasant ganddo. Efe hefyd a ostyngodd y nefoedd, ac a ddisgynnodd: a thywyllwch oedd dan ei draed ef. 10 Marchogodd hefyd ar y ceriwb, ac a ehedodd: ie, efe a ehedodd ar adenydd y gwynt. 11 Efe a wnaeth dywyllwch yn ddirgelfa iddo; a’i babell o’i amgylch oedd dywyllwch dyfroedd, a thew gymylau yr awyr. 12 Gan y disgleirdeb oedd ger ei fron, ei gymylau a aethant heibio; cenllysg a marwor tanllyd. 13 Yr Arglwydd hefyd a daranodd yn y nefoedd, a’r Goruchaf a roddes ei lef; cenllysg a marwor tanllyd. 14 Ie, efe a anfonodd ei saethau, ac a’u gwasgarodd hwynt; ac a saethodd ei fellt, ac a’u gorchfygodd hwynt. 15 Gwaelodion y dyfroedd a welwyd, a seiliau y byd a ddinoethwyd gan dy gerydd di, O Arglwydd, a chan chwythad anadl dy ffroenau. 16 Anfonodd oddi uchod, cymerodd fi, tynnodd fi allan o ddyfroedd lawer. 17 Efe a’m gwaredodd oddi wrth fy ngelyn cadarn, a rhag fy nghaseion: canys yr oeddynt yn drech na mi. 18 Achubasant fy mlaen yn nydd fy ngofid: ond yr Arglwydd oedd gynhaliad i mi. 19 Dug fi hefyd i ehangder: gwaredodd fi; canys ymhoffodd ynof. 20 Yr Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder; yn ôl glendid fy nwylo y talodd efe i mi. 21 Canys cedwais ffyrdd yr Arglwydd, ac ni chiliais yn annuwiol oddi wrth fy Nuw. 22 Oherwydd ei holl farnedigaethau ef oedd ger fy mron i, a’i ddeddfau ni fwriais oddi wrthyf. 23 Bûm hefyd yn berffaith gydag ef, ac ymgedwais rhag fy anwiredd. 24 A’r Arglwydd a’m gobrwyodd yn ôl fy nghyfiawnder, yn ôl purdeb fy nwylo o flaen ei lygaid ef. 25 A’r trugarog y gwnei drugaredd; â’r gŵr perffaith y gwnei berffeithrwydd. 26 A’r glân y gwnei lendid; ac â’r cyndyn yr ymgyndynni. 27 Canys ti a waredi y bobl gystuddiedig: ond ti a ostyngi olygon uchel. 28 Oherwydd ti a oleui fy nghannwyll: yr Arglwydd fy Nuw a lewyrcha fy nhywyllwch. 29 Oblegid ynot ti y rhedais trwy fyddin; ac yn fy Nuw y llemais dros fur. 30 Duw sydd berffaith ei ffordd: gair yr Arglwydd sydd wedi ei buro: tarian yw efe i bawb a ymddiriedant ynddo. 31 Canys pwy sydd Dduw heblaw yr Arglwydd? a phwy sydd graig ond ein Duw ni? 32 Duw sydd yn fy ngwregysu â nerth, ac yn gwneuthur fy ffordd yn berffaith. 33 Gosod y mae efe fy nhraed fel traed ewigod; ac ar fy uchelfannau y’m sefydla. 34 Efe sydd yn dysgu fy nwylo i ryfel; fel y dryllier bwa dur yn fy mreichiau. 35 Rhoddaist hefyd i mi darian dy iachawdwriaeth; a’th ddeheulaw a’m cynhaliodd, a’th fwynder a’m lluosogodd. 36 Ehengaist fy ngherddediad danaf; fel na lithrodd fy nhraed. 37 Erlidiais fy ngelynion, ac a’u goddiweddais: ac ni ddychwelais nes eu difa hwynt. 38 Archollais hwynt, fel na allent godi: syrthiasant dan fy nhraed. 39 Canys gwregysaist fi â nerth i ryfel: darostyngaist danaf y rhai a ymgododd i’m herbyn. 40 Rhoddaist hefyd i mi warrau fy ngelynion; fel y difethwn fy nghaseion. 41 Gwaeddasant, ond nid oedd achubydd: sef ar yr Arglwydd, ond nid atebodd efe hwynt. 42 Maluriais hwynt hefyd fel llwch o flaen y gwynt: teflais hwynt allan megis tom yr heolydd. 43 Gwaredaist fi rhag cynhennau y bobl; gosodaist fi yn ben cenhedloedd: pobl nid adnabûm a’m gwasanaethant. 44 Pan glywant amdanaf, ufuddhânt i mi: meibion dieithr a gymerant arnynt ymddarostwng i mi. 45 Meibion dieithr a ballant, ac a ddychrynant allan o’u dirgel fannau. 46 Byw yw yr Arglwydd, a bendithier fy nghraig: a dyrchafer Duw fy iachawdwriaeth. 47 Duw sydd yn rhoddi i mi allu ymddial, ac a ddarostwng y bobloedd danaf. 48 Efe sydd yn fy ngwared oddi wrth fy ngelynion: ie, ti a’m dyrchefi uwchlaw y rhai a gyfodant i’m herbyn: achubaist fi rhag y gŵr traws. 49 Am hynny y moliannaf di, O Arglwydd, ymhlith y cenhedloedd, ac y canaf i’th enw. 50 Efe sydd yn gwneuthur mawr ymwared i’w Frenin; ac yn gwneuthur trugaredd i’w eneiniog, i Dafydd, ac i’w had ef byth.