Add parallel Print Page Options

Cân neu Salm Dafydd.

108 Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â’m gogoniant. Deffro, y nabl a’r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a’th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren. Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear; Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â’th ddeheulaw, a gwrando fi. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth. Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr. Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia. 10 Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn? pwy a’m dwg hyd yn Edom? 11 Onid tydi, O Dduw, yr hwn a’n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda’n lluoedd? 12 Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn. 13 Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.