Add parallel Print Page Options

Oherwydd paham, diesgus wyt ti, O ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr un pethau. Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau. Ac a wyt ti’n tybied hyn, O ddyn, yr hwn wyt yn barnu’r rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur yr un pethau, y dihengi di rhag barn Duw? Neu a wyt ti’n diystyru golud ei ddaioni ef, a’i ddioddefgarwch, a’i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch? Eithr yn ôl dy galedrwydd, a’th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a datguddiad cyfiawn farn Duw, Yr hwn a dâl i bob un yn ôl ei weithredoedd: Sef i’r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: Eithr i’r rhai sydd gynhennus, ac anufudd i’r gwirionedd, eithr yn ufudd i anghyfiawnder, y bydd llid a digofaint; Trallod ac ing ar bob enaid dyn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a’r Groegwr hefyd: 10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thangnefedd, i bob un sydd yn gwneuthur daioni; i’r Iddew yn gyntaf, ac i’r Groegwr hefyd. 11 Canys nid oes derbyn wyneb gerbron Duw. 12 Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddi‐ddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddi‐ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf, a fernir wrth y ddeddf; 13 (Canys nid gwrandawyr y ddeddf sydd gyfiawn gerbron Duw, ond gwneuthurwyr y ddeddf a gyfiawnheir. 14 Canys pan yw’r Cenhedloedd y rhai nid yw’r ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y ddeddf, y rhai hyn heb fod y ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain: 15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y ddeddf yn ysgrifenedig yn eu calonnau, a’u cydwybod yn cyd‐dystiolaethu, a’u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn esgusodi;) 16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ôl fy efengyl i, trwy Iesu Grist. 17 Wele, Iddew y’th elwir di, ac yr wyt yn gorffwys yn y ddeddf, ac yn gorfoleddu yn Nuw; 18 Ac yn gwybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fod wedi dy addysgu o’r ddeddf; 19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch, 20 Yn athro i’r angall, yn ddysgawdwr i’r rhai bach, a chennyt ffurf y gwybodaeth a’r gwirionedd yn y ddeddf. 21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addysgu arall, oni’th ddysgi dy hun? yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrater, a ladreti di? 22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber, a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gysegrysbeili di? 23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y ddeddf, trwy dorri’r ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw? 24 Canys enw Duw o’ch plegid chwi a geblir ymhlith y Cenhedloedd, megis y mae yn ysgrifenedig. 25 Canys enwaediad yn wir a wna les, os cedwi y ddeddf: eithr os troseddwr y ddeddf ydwyt, aeth dy enwaediad yn ddienwaediad. 26 Os y dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad? 27 Ac oni bydd i’r dienwaediad yr hwn sydd o naturiaeth, os ceidw y ddeddf, dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren a’r enwaediad wyt yn troseddu’r ddeddf? 28 Canys nid yr hwn sydd yn yr amlwg sydd Iddew; ac nid enwaediad yw yr hwn sydd yn yr amlwg yn y cnawd: 29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew; ac enwaediad y galon sydd yn yr ysbryd, nid yn y llythyren; yr hwn y mae ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.