Add parallel Print Page Options

Er hyn oll mi a ystyriais yn fy nghalon, i ddangos hyn oll; bod y cyfiawn, a’r doethion, a’u gweithredoedd, yn llaw Duw: ni ŵyr dyn gariad, neu gas, wrth yr hyn oll sydd o’u blaen. Yr un peth a ddamwain i bawb fel ei gilydd: yr un peth a ddamwain i’r cyfiawn, ac i’r annuwiol; i’r da ac i’r glân, ac i’r aflan; i’r neb a abertha, ac i’r neb nid abertha: fel y mae y da, felly y mae y pechadur; a’r neb a dyngo, fel y neb a ofno dyngu. Dyma ddrwg ymysg yr holl bethau a wneir dan haul; sef bod yr un diben i bawb: hefyd calon meibion dynion sydd yn llawn drygioni, ac ynfydrwydd sydd yn eu calon tra fyddant fyw, ac ar ôl hynny y maent yn myned at y meirw.

Canys i’r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw. Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd. Eu cariad hefyd, a’u cas, a’u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.

Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd. Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben. Dwg dy fyd yn llawen gyda’th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul. 10 Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i’w wneuthur, gwna â’th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.

11 Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na’r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na’r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll. 12 Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â’r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.

13 Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi: 14 Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a’i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn: 15 A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â’i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw. 16 Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef. 17 Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid. 18 Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.