Add parallel Print Page Options

10 Gwybed meirw a wnânt i ennaint yr apothecari ddrewi; felly y gwna ychydig ffolineb i ŵr ardderchog oherwydd doethineb ac anrhydedd. Calon y doeth sydd ar ei ddeheulaw; a chalon y ffôl ar ei law aswy. Ie, y ffôl pan rodio ar y ffordd, sydd â’i galon yn pallu, ac y mae yn dywedyd wrth bawb ei fod yn ffôl. Pan gyfodo ysbryd penadur yn dy erbyn, nac ymado â’th le: canys ymostwng a ostega bechodau mawrion. Y mae drwg a welais dan yr haul, cyffelyb i gyfeiliorni sydd yn dyfod oddi gerbron y llywydd: Gosodir ffolineb mewn graddau uchel, a’r cyfoethog a eistedd mewn lle isel. Mi a welais weision ar feirch, a thywysogion yn cerdded fel gweision ar y ddaear. Y sawl a gloddio bwll, a syrth ynddo; a’r neb a wasgaro gae, sarff a’i brath. Y sawl a symudo gerrig, a gaiff ddolur oddi wrthynt; a’r neb a hollto goed, a gaiff niwed oddi wrthynt. 10 Os yr haearn a byla, oni hoga efe y min, rhaid iddo roddi mwy o nerth: eto doethineb sydd ragorol i gyfarwyddo. 11 Os brath sarff heb swyno, nid gwell yw dyn siaradus. 12 Geiriau genau y doeth sydd rasol: ond gwefusau y ffôl a’i difetha ef ei hun. 13 Ffolineb yw dechreuad geiriau ei enau ef: a diweddiad geiriau ei enau sydd anfad ynfydrwydd. 14 Y ffôl hefyd sydd aml ei eiriau: ni ŵyr neb beth a fydd; a phwy a fynega iddo pa beth fydd ar ei ôl ef? 15 Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i’r ddinas.

16 Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a’th dywysogion yn bwyta yn fore. 17 Gwyn dy fyd di y wlad sydd â’th frenin yn fab i bendefigion, a’th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.

18 Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni.

19 Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth.

20 Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.