Add parallel Print Page Options

Pan glybu Sanbalat ein bod ni yn adeiladu y mur, efe a gynddeiriogodd ynddo, ac a lidiodd yn ddirfawr, ac a watwarodd yr Iddewon. Ac efe a lefarodd o flaen ei frodyr a llu Samaria, ac a ddywedodd, Beth y mae yr Iddewon gweiniaid hyn yn ei wneuthur? a adewir iddynt hwy? a aberthant? a orffennant mewn diwrnod? a godant hwy y cerrig o’r tyrrau llwch, wedi eu llosgi? A Thobeia yr Ammoniad oedd yn ei ymyl, ac efe a ddywedodd, Er eu bod hwy yn adeiladu, eto ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerrig hwynt. Gwrando, O ein Duw; canys yr ydym yn ddirmygus: dychwel hefyd eu gwaradwydd ar eu pennau hwynt, a dod hwynt yn anrhaith yng ngwlad y caethiwed: Ac na orchuddia eu hanwiredd hwynt, ac na ddileer eu pechod hwynt o’th ŵydd di: canys digiasant dydi gerbron yr adeiladwyr. Felly nyni a adeiladasom y mur: a chyfannwyd yr holl fur hyd ei hanner: canys yr oedd gan y bobl galon i weithio.

Ond pan glybu Sanbalat, a Thobeia, a’r Arabiaid, a’r Ammoniaid, a’r Asdodiaid, gwbl gyweirio muriau Jerwsalem, a dechrau cau yr adwyau; yna y llidiasant yn ddirfawr: A hwynt oll a fradfwriadasant ynghyd i ddyfod i ymladd yn erbyn Jerwsalem, ac i’w rhwystro. Yna y gweddiasom ar ein Duw, ac y gosodasom wyliadwriaeth yn eu herbyn hwynt ddydd a nos, o’u plegid hwynt. 10 A Jwda a ddywedodd, Nerth y cludwyr a wanhaodd, a phridd lawer sydd, fel na allwn ni adeiladu y mur. 11 A’n gwrthwynebwyr a ddywedasant, Ni chânt wybod, na gweled, nes i ni ddyfod i’w mysg hwynt, a’u lladd, a rhwystro eu gwaith hwynt. 12 A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.

13 Am hynny mi a osodais rai yn y lleoedd isaf, o’r tu ôl i’r mur, ac yn y lleoedd uchaf; yn ôl eu teuluoedd hefyd y gosodais y bobl, â’u cleddyfau, â’u gwaywffyn, ac â’u bwâu. 14 A mi a edrychais, ac a gyfodais, ac a ddywedais wrth y pendefigion, a’r swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Nac ofnwch rhagddynt: cofiwch yr Arglwydd mawr ac ofnadwy, ac ymleddwch dros eich brodyr, eich meibion a’ch merched, eich gwragedd a’ch tai. 15 A phan glybu ein gelynion fod y peth yn hysbys i ni, Duw a ddiddymodd eu cyngor hwynt; a ninnau oll a ddychwelasom at y mur, bawb i’w waith. 16 Ac o’r dydd hwnnw, hanner fy ngweision oedd yn gweithio yn y gwaith, a’u hanner hwynt oedd yn dal gwaywffyn, a tharianau, a bwâu, a llurigau; a’r tywysogion oedd ar ôl holl dŷ Jwda. 17 Y rhai oedd yn adeiladu ar y mur, ac yn dwyn beichiau, a’r rhai oedd yn llwytho, oeddynt ag un llaw yn gweithio yn y gwaith, ac â’r llaw arall yn dal arf. 18 Canys pob un o’r adeiladwyr oedd wedi gwregysu ei gleddyf ar ei glun, ac yn adeiladu: a’r hwn oedd yn lleisio mewn utgorn ydoedd yn fy ymyl i.

19 A mi a ddywedais wrth y pendefigion, ac wrth y swyddogion, ac wrth y rhan arall o’r bobl, Y gwaith sydd fawr a helaeth, a nyni a wasgarwyd ar hyd y mur, ymhell oddi wrth ein gilydd. 20 Yn y fan lle y clywoch sain yr utgorn, yno ymgesglwch atom. Ein Duw ni a ymladd drosom. 21 Felly yr oeddem ni yn gweithio yn y gwaith: a’u hanner hwynt yn dal gwaywffyn, o gyfodiad y wawr hyd gyfodiad y sêr. 22 Dywedais hefyd y pryd hwnnw wrth y bobl, Lletyed pob un â’i was yn Jerwsalem, fel y byddont i ni yn wyliadwriaeth y nos, a’r dydd mewn gwaith. 23 Felly myfi, a’m brodyr, a’m gweision, a’r gwylwyr oedd ar fy ôl, ni ddiosgasom ein dillad, ond a ddiosgai pob un i’w golchi.