Add parallel Print Page Options

27 Aphan ddaeth y bore, cydymgynghorodd yr holl archoffeiriaid, a henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a’i dygasant ef ymaith, ac a’i traddodasant ef i Pontius Peilat y rhaglaw.

Yna pan welodd Jwdas, yr hwn a’i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i’r archoffeiriaid a’r henuriaid, Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwythau a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu’r arian yn y deml, efe a ymadawodd, ac a aeth ac a ymgrogodd. A’r archoffeiriaid a gymerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlon i ni eu bwrw hwynt yn y drysorfa; canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt gydymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithriaid. Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hyd heddiw. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel; 10 Ac a’u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosododd yr Arglwydd i mi.) 11 A’r Iesu a safodd gerbron y rhaglaw: a’r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. 12 A phan gyhuddid ef gan yr archoffeiriaid a’r henuriaid, nid atebodd efe ddim. 13 Yna y dywedodd Peilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? 14 Ac nid atebodd efe iddo i un gair; fel y rhyfeddodd y rhaglaw yn fawr. 15 Ac ar yr ŵyl honno yr arferai’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un carcharor, yr hwn a fynnent. 16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. 17 Wedi iddynt gan hynny ymgasglu ynghyd, Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa un a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? 18 Canys efe a wyddai mai o genfigen y traddodasent ef.

19 Ac efe yn eistedd ar yr orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd ato, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â’r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddiw mewn breuddwyd o’i achos ef. 20 A’r archoffeiriaid a’r henuriaid a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. 21 A’r rhaglaw a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa un o’r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwythau a ddywedasant, Barabbas. 22 Peilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i’r Iesu, yr hwn a elwir Crist? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croeshoelier ef. 23 A’r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwythau a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croeshoelier ef.

24 A Peilat, pan welodd nad oedd dim yn tycio, ond yn hytrach bod cynnwrf, a gymerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo gerbron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyf fi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. 25 A’r holl bobl a atebodd ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.

26 Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a’i rhoddes i’w groeshoelio. 27 Yna milwyr y rhaglaw a gymerasant yr Iesu i’r dadleudy, ac a gynullasant ato yr holl fyddin. 28 A hwy a’i diosgasant ef, ac a roesant amdano fantell o ysgarlad.

29 A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a’i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddeau; ac a blygasant eu gliniau ger ei fron ef, ac a’i gwatwarasant, gan ddywedyd, Henffych well, brenin yr Iddewon. 30 A hwy a boerasant arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a’i trawsant ar ei ben. 31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a’i diosgasant ef o’r fantell, ac a’i gwisgasant â’i ddillad ei hun, ac a’i dygasant ef ymaith i’w groeshoelio. 32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddyn o Cyrene, a’i enw Simon; hwn a gymellasant i ddwyn ei groes ef.

33 A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir, Lle’r benglog, 34 Hwy a roesant iddo i’w yfed, finegr yn gymysgedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. 35 Ac wedi iddynt ei groeshoelio ef, hwy a ranasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni’r peth a ddywedwyd trwy’r proffwyd, Hwy a ranasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisg y bwriasant goelbren. 36 A chan eistedd, hwy a’i gwyliasant ef yno: 37 A gosodasant hefyd uwch ei ben ef ei achos yn ysgrifenedig, HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON. 38 Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddeau, ac un ar yr aswy.

39 A’r rhai oedd yn myned heibio a’i cablasant ef, gan ysgwyd eu pennau, 40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri’r deml, ac a’i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun. Os ti yw Mab Duw, disgyn oddi ar y groes. 41 A’r un modd yr archoffeiriaid hefyd, gan watwar, gyda’r ysgrifenyddion a’r henuriaid, a ddywedasant, 42 Efe a waredodd eraill, ei hunan nis gall efe ei waredu. Os Brenin Israel yw, disgynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. 43 Ymddiriedodd yn Nuw; gwareded efe ef yr awron, os efe a’i myn ef: canys efe a ddywedodd, Mab Duw ydwyf. 44 A’r un peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. 45 Ac o’r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. 46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef uchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, lama sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, paham y’m gadewaist? 47 A rhai o’r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Eleias. 48 Ac yn y fan un ohonynt a redodd, ac a gymerth ysbwng, ac a’i llanwodd o finegr, ac a’i rhoddodd ar gorsen, ac a’i diododd ef. 49 A’r lleill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Eleias i’w waredu ef.

50 A’r Iesu, wedi llefain drachefn â llef uchel, a ymadawodd â’r ysbryd. 51 Ac wele, llen y deml a rwygwyd yn ddau oddi fyny hyd i waered: a’r ddaear a grynodd, a’r meini a holltwyd: 52 A’r beddau a agorwyd; a llawer o gyrff y saint a hunasent a gyfodasant, 53 Ac a ddaethant allan o’r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i’r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. 54 Ond y canwriad, a’r rhai oedd gydag ef yn gwylied yr Iesu, wedi gweled y ddaeargryn, a’r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wir Mab Duw ydoedd hwn. 55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hirbell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilea, gan weini iddo ef: 56 Ymhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iago a Joses, a mam meibion Sebedeus.

57 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathea, a’i enw Joseff, yr hwn a fuasai yntau yn ddisgybl i’r Iesu: 58 Hwn a aeth at Peilat, ac a ofynnodd gorff yr Iesu. Yna y gorchmynnodd Peilat roddi’r corff. 59 A Joseff wedi cymryd y corff, a’i hamdôdd â lliain glân, 60 Ac a’i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorasai efe yn y graig; ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymaith. 61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.

62 A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar‐ŵyl, yr ymgynullodd yr archoffeiriaid a’r Phariseaid at Peilat, 63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gof gennym ddywedyd o’r twyllwr hwnnw, ac efe eto yn fyw, Wedi tridiau y cyfodaf. 64 Gorchymyn gan hynny gadw’r bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd; rhag dyfod ei ddisgyblion o hyd nos, a’i ladrata ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diwethaf yn waeth na’r cyntaf. 65 A dywedodd Peilat wrthynt, Y mae gennych wyliadwriaeth; ewch, gwnewch mor ddiogel ag y medroch. 66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gyda’r wyliadwriaeth.