Add parallel Print Page Options

Wele fi yn anfon fy nghennad, ac efe a arloesa y ffordd o’m blaen i: ac yn ddisymwth y daw yr Arglwydd, yr hwn yr ydych yn ei geisio, i’w deml; sef angel y cyfamod yr hwn yr ydych yn ei chwennych: wele efe yn dyfod, medd Arglwydd y lluoedd. Ond pwy a oddef ddydd ei ddyfodiad ef? a phwy a saif pan ymddangoso efe? canys y mae efe fel tân y toddydd, ac fel sebon y golchyddion. Ac efe a eistedd fel purwr a glanhawr arian: ac efe a bura feibion Lefi, ac a’u coetha hwynt fel aur ac fel arian, fel y byddont yn offrymu i’r Arglwydd offrwm mewn cyfiawnder. Yna y bydd melys gan yr Arglwydd offrwm Jwda a Jerwsalem, megis yn y dyddiau gynt, ac fel y blynyddoedd gynt. A mi a nesâf atoch chwi i farn; a byddaf dyst cyflym yn erbyn yr hudolion, ac yn erbyn y godinebwyr, ac yn erbyn yr anudonwyr, ac yn erbyn camatalwyr cyflog y cyflogedig, a’r rhai sydd yn gorthrymu y weddw, a’r amddifad, a’r dieithr, ac heb fy ofni i, medd Arglwydd y lluoedd. Canys myfi yr Arglwydd ni’m newidir; am hynny ni ddifethwyd chwi, meibion Jacob.

Er dyddiau eich tadau y ciliasoch oddi wrth fy neddfau, ac ni chadwasoch hwynt: dychwelwch ataf fi, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd Arglwydd y lluoedd: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y dychwelwn?

A ysbeilia dyn Dduw? eto chwi a’m hysbeiliasoch i: ond chwi a ddywedwch, Ym mha beth y’th ysbeiliasom? Yn y degwm a’r offrwm. Melltigedig ydych trwy felltith: canys chwi a’m hysbeiliasoch i, sef yr holl genedl hon. 10 Dygwch yr holl ddegwm i’r trysordy, fel y byddo bwyd yn fy nhŷ; a phrofwch fi yr awr hon yn hyn, medd Arglwydd y lluoedd, onid agoraf i chwi ffenestri y nefoedd, a thywallt i chwi fendith, fel na byddo digon o le i’w derbyn. 11 Myfi hefyd a argyhoeddaf er eich mwyn chwi yr ormes, ac ni ddifwyna i chwi ffrwyth y ddaear: a’r winwydden yn y maes ni fwrw ei ffrwyth cyn yr amser i chwi, medd Arglwydd y lluoedd. 12 A’r holl genhedloedd a’ch galwant chwi yn wynfydedig: canys byddwch yn wlad hyfryd, medd Arglwydd y lluoedd.

13 Eich geiriau chwi a ymgryfhaodd i’m herbyn, medd yr Arglwydd: eto chwi a ddywedwch, Pa beth a ddywedasom ni yn dy erbyn di? 14 Dywedasoch, Oferedd yw gwasanaethu Duw: a pha lesiant sydd er i ni gadw ei orchmynion ef, ac er i ni rodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd? 15 Ac yr awr hon yr ydym yn galw y beilchion yn wynfydedig: ie, gweithredwyr drygioni a adeiladwyd; ie, y rhai a demtiant Dduw, a waredwyd.

16 Yna y rhai oedd yn ofni yr Arglwydd a lefarasant bob un wrth ei gymydog: a’r Arglwydd a wrandawodd, ac a glybu; ac ysgrifennwyd llyfr coffadwriaeth ger ei fron ef i’r rhai oedd yn ofni yr Arglwydd, ac i’r rhai oedd yn meddwl am ei enw ef. 17 A byddant eiddof fi, medd Arglwydd y lluoedd, y dydd y gwnelwyf briodoledd; arbedaf hwynt hefyd fel yr arbed gŵr ei fab sydd yn ei wasanaethu. 18 Yna y dychwelwch, ac y gwelwch ragor rhwng y cyfiawn a’r drygionus, rhwng yr hwn a wasanaetho Dduw a’r hwn nis gwasanaetho ef.