Add parallel Print Page Options

Os pecha dyn, a chlywed llais llw, ac yntau yn dyst, naill ai yn gweled ai yn gwybod; oni fynega, yna efe a ddwg ei anwiredd. Os dyn a gyffwrdd â dim aflan, pa un bynnag ai burgyn bwystfil aflan, ai burgyn anifail aflan, ai burgyn ymlusgiad aflan; er bod y peth yn guddiedig oddi wrtho ef, aflan ac euog yw efe. Neu pan gyffyrddo ag aflendid dyn, pa aflendid bynnag iddo, yr hwn y bydd efe aflan o’i blegid, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo wybod, yna euog yw. Neu os dyn a dwng, gan draethu â’r gwefusau ar wneuthur drwg, neu wneuthur da; beth bynnag a draetho dyn trwy lw, a’r peth yn guddiedig rhagddo; pan gaffo efe wybod, euog yw o un o hyn. A phan fyddo efe euog o un o hyn; yna cyffesed yr hyn y pechodd ynddo: A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd am ei bechod yr hwn a bechodd; sef benyw o’r praidd, oen neu fyn gafr, yn aberth dros bechod; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod. Ond os ei law ni chyrraedd werth oen, dyged i’r Arglwydd, am ei gamwedd yr hwn a bechodd, ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; y naill yn aberth dros bechod, a’r llall yn boethoffrwm. A dyged hwynt at yr offeiriad; ac offrymed efe yr hwn sydd dros bechod yn gyntaf, a thorred ei ben wrth ei wegil; ond na thorred ef ymaith. A thaenelled o waed yr aberth dros bechod ar ystlys yr allor; a gwasger y rhan arall o’r gwaed wrth waelod yr allor. Dyma aberth dros bechod. 10 A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ôl y ddefod: a’r offeiriad a wna gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.

11 Ac os ei law ni chyrraedd ddwy durtur, neu ddau gyw colomen; yna dyged yr hwn a bechodd ei offrwm o ddegfed ran effa o beilliaid yn aberth dros bechod: na osoded olew ynddo, ac na rodded thus arno; canys aberth dros bechod yw. 12 A dyged hynny at yr offeiriad: a chymered yr offeiriad ohono lonaid ei law yn goffadwriaeth, a llosged ar yr allor, fel ebyrth tanllyd i’r Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 13 A gwnaed yr offeiriad gymod drosto ef am ei bechod a bechodd efe yn un o’r rhai hyn, a maddeuir iddo: a bydded i’r offeiriad y gweddill, megis o’r bwyd‐offrwm.

14 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 15 Os gwna dyn gamwedd, a phechu trwy amryfusedd, yn y pethau a gysegrwyd i’r Arglwydd; yna dyged i’r Arglwydd dros ei gamwedd, hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di o siclau arian, yn ôl sicl y cysegr, yn aberth dros gamwedd. 16 A thaled am y niwed a wnaeth yn y peth cysegredig, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato, a rhodded ef at yr offeiriad: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto â hwrdd yr offrwm dros gamwedd; a maddeuir iddo.

17 Ac os pecha enaid, a gwneuthur yn erbyn gorchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur; er na wyddai, eto euog fydd, a’i anwiredd a ddwg. 18 A dyged hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd, gyda’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei amryfusedd a gamgymerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo. 19 Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddiau yn erbyn yr Arglwydd.