Add parallel Print Page Options

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur: Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd. A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd. A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod. A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr. A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a’r holl wêr fyddo ar y perfedd; A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau; 10 Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm. 11 Ond croen y bustach, a’i holl gig, ynghyd â’i ben, a’i draed, a’i berfedd, a’i fiswail, 12 A’r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa’r lludw; ac a’i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa’r lludw y llosgir ef.

13 Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog: 14 Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod. 15 A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd. 16 A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod. 17 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen. 18 A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 19 A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor. 20 A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt. 21 A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.

22 Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl. 24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 25 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm. 26 A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.

27 Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe. 29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 30 A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 31 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo. 32 Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl. 33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 34 A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 35 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.