Add parallel Print Page Options

16 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, wedi marwolaeth dau fab Aaron, pan offrymasant gerbron yr Arglwydd, ac y buant feirw; A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Llefara wrth Aaron dy frawd, na ddelo bob amser i’r cysegr o fewn y wahanlen, gerbron y drugareddfa sydd ar yr arch; fel na byddo efe farw: oherwydd mi a ymddangosaf ar y drugareddfa yn y cwmwl. A hyn y daw Aaron i’r cysegr: â bustach ieuanc yn bech‐aberth, ac â hwrdd yn boethoffrwm. Gwisged bais liain sanctaidd, a bydded llodrau lliain am ei gnawd, a gwregyser ef â gwregys lliain, a gwisged feitr lliain: gwisgoedd sanctaidd yw y rhai hyn; golched yntau ei gnawd mewn dwfr, pan wisgo hwynt. A chymered gan gynulleidfa meibion Israel ddau lwdn gafr yn bech‐aberth, ac un hwrdd yn boethoffrwm. Ac offrymed Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ. A chymered y ddau fwch, a gosoded hwynt gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. A rhodded Aaron goelbrennau ar y ddau fwch; un coelbren dros yr Arglwydd, a’r coelbren arall dros y bwch dihangol. A dyged Aaron y bwch y syrthiodd coelbren yr Arglwydd arno, ac offrymed ef yn bech‐aberth. 10 A’r bwch y syrthiodd arno y coelbren i fod yn fwch dihangol, a roddir i sefyll yn fyw gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod ag ef, ac i’w ollwng i’r anialwch yn fwch dihangol. 11 A dyged Aaron fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ; a lladded fustach y pech‐aberth a fyddo drosto ei hun: 12 A chymered lonaid thuser o farwor tanllyd oddi ar yr allor, oddi gerbron yr Arglwydd, a llonaid ei ddwylo o arogl‐darth peraidd mân, a dyged o fewn y wahanlen: 13 A rhodded yr arogl‐darth ar y tân, gerbron yr Arglwydd; fel y cuddio mwg yr arogl‐darth y drugareddfa, yr hon sydd ar y dystiolaeth, ac na byddo efe farw: 14 A chymered o waed y bustach, a thaenelled â’i fys ar y drugareddfa tua’r dwyrain: a saith waith y taenella efe o’r gwaed â’i fys o flaen y drugareddfa.

15 Yna lladded fwch y pech‐aberth fydd dros y bobl, a dyged ei waed ef o fewn y wahanlen; a gwnaed â’i waed ef megis ag y gwnaeth â gwaed y bustach, a thaenelled ef ar y drugareddfa, ac o flaen y drugareddfa: 16 A glanhaed y cysegr oddi wrth aflendid meibion Israel, ac oddi wrth eu hanwireddau, yn eu holl bechodau: a gwnaed yr un modd i babell y cyfarfod, yr hon sydd yn aros gyda hwynt, ymysg eu haflendid hwynt. 17 Ac na fydded un dyn ym mhabell y cyfarfod, pan ddelo efe i mewn i wneuthur cymod yn y cysegr, hyd oni ddelo efe allan, a gwneuthur ohono ef gymod drosto ei hun, a thros ei dŷ, a thros holl gynulleidfa Israel. 18 Ac aed efe allan at yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, a gwnaed gymod arni; a chymered o waed y bustach, ac o waed y bwch, a rhodded ar gyrn yr allor oddi amgylch. 19 A thaenelled arni o’r gwaed seithwaith â’i fys, a glanhaed hi, a sancteiddied hi oddi wrth aflendid meibion Israel.

20 A phan ddarffo iddo lanhau y cysegr, a phabell y cyfarfod, a’r allor, dyged y bwch byw: 21 A gosoded Aaron ei ddwylo ar ben y bwch byw, a chyffesed arno holl anwiredd meibion Israel, a’u holl gamweddau hwynt yn eu holl bechodau; a rhodded hwynt ar ben y bwch, ac anfoned ef ymaith yn llaw gŵr cymwys i’r anialwch. 22 A’r bwch a ddwg eu holl anwiredd hwynt arno, i dir neilltuaeth: am hynny hebrynged efe y bwch i’r anialwch. 23 Yna deued Aaron i babell y cyfarfod, a diosged y gwisgoedd lliain a wisgodd efe wrth ddyfod i’r cysegr, a gadawed hwynt yno. 24 A golched ei gnawd mewn dwfr yn y lle sanctaidd, a gwisged ei ddillad, ac aed allan, ac offrymed ei boethoffrwm ei hun, a phoethoffrwm y bobl, a gwnaed gymod drosto ei hun, a thros y bobl. 25 A llosged wêr y pech‐aberth ar yr allor. 26 A golched yr hwn a anfonodd y bwch i fod yn fwch dihangol, ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; ac yna deued i’r gwersyll. 27 A bustach y pech‐aberth, a bwch y pech‐aberth, y rhai y dygwyd eu gwaed i wneuthur cymod yn y cysegr, a ddwg un i’r tu allan i’r gwersyll; a hwy a losgant eu crwyn hwynt, a’u cnawd, a’u biswail, yn tân. 28 A golched yr hwn a’u llosgo hwynt ei ddillad, golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; wedi hynny deued i’r gwersyll.

29 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi: y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y cystuddiwch eich eneidiau, a dim gwaith nis gwnewch, y priodor a’r dieithr a fyddo yn ymdaith yn eich plith. 30 Oherwydd y dydd hwnnw y gwna yr offeiriad gymod drosoch, i’ch glanhau o’ch holl bechodau, fel y byddoch lân gerbron yr Arglwydd. 31 Saboth gorffwystra yw hwn i chwi; yna cystuddiwch eich eneidiau, trwy ddeddf dragwyddol. 32 A’r offeiriad, yr hwn a eneinio efe, a’r hwn a gysegro efe, i offeiriadu yn lle ei dad, a wna’r cymod, ac a wisg y gwisgoedd lliain, sef y gwisgoedd sanctaidd: 33 Ac a lanha’r cysegr sanctaidd, ac a lanha babell y cyfarfod, a’r allor; ac a wna gymod dros yr offeiriaid, a thros holl bobl y gynulleidfa. 34 A bydded hyn yn ddeddf dragwyddol i chwi, i wneuthur cymod dros feibion Israel, am eu pechodau oll, un waith yn y flwyddyn. Ac efe a wnaeth megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.