Add parallel Print Page Options

14 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Dyma gyfraith y gwahanglwyfus, y dydd y glanheir ef. Dyger ef at yr offeiriad: A’r offeiriad a ddaw allan o’r gwersyll; ac edryched yr offeiriad: ac wele, os pla’r gwahanglwyf a iachaodd ar y gwahanglwyfus; Yna gorchmynned yr offeiriad i’r hwn a lanheir, gymryd dau aderyn y to, byw a glân, a choed cedr, ac ysgarlad, ac isop. A gorchmynned yr offeiriad ladd y naill aderyn y to mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. A chymered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd yng ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog. A thaenelled seithwaith ar yr hwn a lanheir oddi wrth y gwahanglwyf, a barned ef yn lân; yna gollynged yr aderyn byw yn rhydd ar wyneb y maes. A golched yr hwn a lanheir ei ddillad, ac eillied ei holl flew, ac ymolched mewn dwfr; a glân fydd: a deued wedi hynny i’r gwersyll, a thriged o’r tu allan i’w babell saith niwrnod. A’r seithfed dydd bydded iddo eillio ei holl flew, sef ei ben, a’i farf, ac aeliau ei lygaid; ie, eillied ei holl flew; a golched ei ddillad, a golched ei gnawd mewn dwfr; a glân fydd. 10 A’r wythfed dydd cymered ddau oen perffaith‐gwbl, ac un hesbin flwydd berffaith‐gwbl, a thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, ac un log o olew. 11 A gosoded yr offeiriad a lanhao, y gŵr a lanheir, a hwynt hefyd, gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 12 A chymered yr offeiriad un hesbwrn, ac offrymed ef yn aberth dros gamwedd, a’r log o olew, a chyhwfaned hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 13 A lladded ef yr oen yn y lle y lladder y pech‐aberth, a’r poethoffrwm; sef yn y lle sanctaidd: oherwydd yr aberth dros gamwedd sydd eiddo’r offeiriad, yn gystal â’r pech‐aberth: sancteiddiolaf yw. 14 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros gamwedd, a rhodded yr offeiriad ef ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau ef. 15 A chymered yr offeiriad o’r log olew, a thywallted ar gledr ei law aswy ei hun: 16 A gwlyched yr offeiriad ei fys deau yn yr olew fyddo ar ei law aswy, a thaenelled o’r olew â’i fys seithwaith gerbron yr Arglwydd. 17 Ac o weddill yr olew fyddo ar ei law, y dyd yr offeiriad ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar waed yr offrwm dros gamwedd. 18 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar law yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto gerbron yr Arglwydd. 19 Ie, offrymed yr offeiriad aberth dros bechod, a gwnaed gymod dros yr hwn a lanheir oddi wrth ei aflendid; ac wedi hyny lladded y poethoffrwm. 20 Ac aberthed yr offeiriad y poethoffrwm, a’r bwyd‐offrwm, ar yr allor; a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a glân fydd. 21 Ond os tlawd fydd, a’i law heb gyrhaeddyd hyn; yna cymered un oen, yn aberth dros gamwedd, i’w gyhwfanu, i wneuthur cymod drosto, ac un ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew yn fwyd‐offrwm, a log o olew; 22 A dwy durtur, neu ddau gyw colomen, y rhai a gyrhaeddo ei law: a bydded un yn bech‐aberth, a’r llall yn boethoffrwm. 23 A dyged hwynt yr wythfed dydd i’w lanhau ef at yr offeiriad, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 24 A chymered yr offeiriad oen yr offrwm dros gamwedd, a’r log olew, a chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 25 A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau. 26 A thywallted yr offeiriad o’r olew ar gledr ei law aswy ei hun: 27 Ac â’i fys deau taenelled yr offeiriad o’r olew fyddo ar gledr ei law aswy, seithwaith gerbron yr Arglwydd. 28 A rhodded yr offeiriad o’r olew a fyddo ar gledr ei law, ar gwr isaf clust ddeau yr hwn a lanheir, ac ar fawd ei law ddeau, ac ar fawd ei droed deau, ar y man y byddo gwaed yr offrwm dros gamwedd. 29 A’r rhan arall o’r olew fyddo ar gledr llaw yr offeiriad, a rydd efe ar ben yr hwn a lanheir, i wneuthur cymod drosto gerbron yr Arglwydd. 30 Yna offrymed un o’r turturau, neu o’r cywion colomennod, sef o’r rhai a gyrhaeddo ei law ef; 31 Y rhai, meddaf, a gyrhaeddo ei law ef, un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, ynghyd â’r bwyd‐offrwm: a gwnaed yr offeiriad gymod dros yr hwn a lanheir gerbron yr Arglwydd. 32 Dyma gyfraith yr un y byddo pla’r gwahanglwyf arno, yr hwn ni chyrraedd ei law yr hyn a berthyn i’w lanhad.

33 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, 34 Pan ddeloch i dir Canaan, yr hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi yn feddiant, os rhoddaf bla gwahanglwyf ar dŷ o fewn tir eich meddiant; 35 A dyfod o’r hwn biau’r tŷ, a dangos i’r offeiriad, gan ddywedyd, Gwelaf megis pla yn y tŷ: 36 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt arloesi’r tŷ, cyn dyfod yr offeiriad i weled y pla; fel na haloger yr hyn oll a fyddo yn tŷ: ac wedi hynny deued yr offeiriad i edrych y tŷ; 37 Ac edryched ar y pla: ac wele, os y pla fydd ym mharwydydd y tŷ, yn agennau gwyrddleision neu gochion, a’r olwg arnynt yn is na’r pared; 38 Yna aed yr offeiriad allan o’r tŷ, i ddrws y tŷ, a chaeed y tŷ saith niwrnod. 39 A’r seithfed dydd deued yr offeiriad drachefn, ac edryched: ac os lledodd y pla ym mharwydydd y tŷ; 40 Yna gorchmynned yr offeiriad iddynt dynnu’r cerrig y byddo y pla arnynt, a bwriant hwynt allan o’r ddinas i le aflan. 41 A phared grafu’r tŷ o’i fewn o amgylch; a thywalltant y llwch a grafont, o’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 42 A chymerant gerrig eraill, a gosodant yn lle y cerrig hynny; a chymered bridd arall, a phridded y tŷ. 43 Ond os daw’r pla drachefn, a tharddu yn y tŷ, wedi tynnu’r cerrig, ac wedi crafu’r tŷ, ac wedi priddo; 44 Yna doed yr offeiriad, ac edryched: ac wele, os lledodd y pla yn y tŷ, gwahanglwyf ysol yw hwnnw yn y tŷ: aflan yw efe. 45 Yna tynned y tŷ i lawr, ei gerrig, a’i goed, a holl bridd y tŷ; a bwried i’r tu allan i’r ddinas i le aflan. 46 A’r hwn a ddêl i’r tŷ yr holl ddyddiau y parodd efe ei gau, efe a fydd aflan hyd yr hwyr. 47 A’r hwn a gysgo yn y tŷ, golched ei ddillad: felly yr hwn a fwytao yn y tŷ, golched ei ddillad. 48 Ac os yr offeiriad gan ddyfod a ddaw, ac a edrych; ac wele, ni ledodd y pla yn y tŷ, wedi priddo’r tŷ: yna barned yr offeiriad y tŷ yn lân, oherwydd iacháu y pla. 49 A chymered i lanhau y tŷ ddau aderyn y to, a choed cedr ac ysgarlad, ac isop. 50 A lladded y naill aderyn mewn llestr pridd, oddi ar ddwfr rhedegog. 51 A chymered y coed cedr, a’r isop, a’r ysgarlad, a’r aderyn byw, a throched hwynt yng ngwaed yr aderyn a laddwyd, ac yn y dwfr rhedegog, a thaenelled ar y tŷ seithwaith. 52 A glanhaed y tŷ â gwaed yr aderyn, ac â’r dwfr rhedegog, ac â’r aderyn byw, ac â’r coed cedr, ac â’r isop, ac â’r ysgarlad. 53 A gollynged yr aderyn byw allan o’r ddinas ar wyneb y maes, a gwnaed gymod dros y tŷ; a glân fydd. 54 Dyma gyfraith am bob pla’r clwyf gwahanol, ac am y ddufrech, 55 Ac am wahanglwyf gwisg, a thŷ, 56 Ac am chwydd, a chramen, a disgleirdeb; 57 I ddysgu pa bryd y bydd aflan, a pha bryd yn lân. Dyma gyfraith y gwahanglwyf.