Add parallel Print Page Options

Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, ar gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid; Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.

A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai. A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynnod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo, A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad amdanynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd: Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfamod â ni. A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfamod â thi? A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch? A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, oherwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aifft; 10 A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenin Hesbon, ac i Og brenin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth. 11 Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymerwch luniaeth gyda chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfamod â ni. 12 Dyma ein bara ni: yn frwd y cymerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod atoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw. 13 Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith. 14 A’r gwŷr a gymerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgyngorasant â genau yr Arglwydd. 15 Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfamod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt. 16 Ond ymhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfamod â hwynt, hwy a glywsant mai cymdogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros. 17 A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Cheffira, Beeroth hefyd, a Chiriathjearim. 18 Ond ni thrawodd meibion Israel mohonynt hwy; oblegid tywysogion y gynulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a’r holl gynulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion. 19 A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt. 20 Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni; oherwydd y llw a dyngasom wrthynt. 21 A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynulleidfa,) fel y dywedasai’r tywysogion wrthynt.

22 Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni? 23 Yn awr gan hynny melltigedig ydych: ac ni ddianc un ohonoch rhag bod yn gaethweision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw. 24 A hwy a atebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddiau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn. 25 Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna. 26 Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt. 27 A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynulleidfa, ac i allor yr Arglwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.