Add parallel Print Page Options

A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jona mab Amitai, gan ddywedyd, Cyfod, dos i Ninefe y ddinas fawr, a llefa yn ei herbyn; canys eu drygioni hwynt a ddyrchafodd ger fy mron. A Jona a gyfododd i ffoi i Tarsis oddi gerbron yr Arglwydd: ac efe a aeth i waered i Jopa, ac a gafodd long yn myned i Tarsis, ac a dalodd ei llong-log hi, ac a aeth i waered iddi i fyned gyda hwynt i Tarsis, oddi gerbron yr Arglwydd.

Ond yr Arglwydd a gyfododd wynt mawr yn y môr, a bu yn y môr dymestl fawr, fel y tybygwyd y drylliai y llong. Yna y morwyr a ofnasant, ac a lefasant bob un ar ei dduw, a bwriasant y dodrefn oedd yn y llong i’r môr, i ymysgafnhau ohonynt: ond Jona a aethai i waered i ystlysau y llong, ac a orweddasai, ac a gysgasai. A meistr y llong a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddarfu i ti, gysgadur? cyfod, galw ar dy Dduw: fe allai yr ystyr y Duw hwnnw wrthym, fel na’n coller. A dywedasant bob un wrth ei gyfaill, Deuwch, a bwriwn goelbrennau, fel y gwypom o achos pwy y mae y drwg hwn arnom. A bwriasant goelbrennau, a’r coelbren a syrthiodd ar Jona. A dywedasant wrtho, Atolwg, dangos i ni er mwyn pwy y mae i ni y drwg hwn: beth yw dy gelfyddyd di? ac o ba le y daethost? pa le yw dy wlad? ac o ba bobl yr wyt ti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hebread ydwyf fi; ac ofni yr wyf fi Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a wnaeth y môr a’r sychdir. 10 A’r gwŷr a ofnasant gan ofn mawr, ac a ddywedasant wrtho, Paham y gwnaethost hyn? Canys y dynion a wyddent iddo ffoi oddi gerbron yr Arglwydd, oherwydd efe a fynegasai iddynt.

11 A dywedasant wrtho, Beth a wnawn i ti, fel y gostego y môr oddi wrthym? canys gweithio yr oedd y môr, a therfysgu. 12 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Cymerwch fi, a bwriwch fi i’r môr; a’r môr a ostega i chwi; canys gwn mai o’m hachos i y mae y dymestl fawr hon arnoch chwi. 13 Er hyn y gwŷr a rwyfasant i’w dychwelyd i dir; ond nis gallent: am fod y môr yn gweithio, ac yn terfysgu yn eu herbyn hwy. 14 Llefasant gan hynny ar yr Arglwydd, a dywedasant, Atolwg, Arglwydd, atolwg, na ddifether ni am einioes y gŵr hwn, ac na ddyro i’n herbyn waed gwirion: canys ti, O Arglwydd, a wnaethost fel y gwelaist yn dda. 15 Yna y cymerasant Jona, ac a’i bwriasant ef i’r môr: a pheidiodd y môr â’i gyffro. 16 A’r gwŷr a ofnasant yr Arglwydd ag ofn mawr, ac a aberthasant aberth i’r Arglwydd, ac a addunasant addunedau.

17 A’r Arglwydd a ddarparasai bysgodyn mawr i lyncu Jona. A Jona a fu ym mol y pysgodyn dri diwrnod a thair nos.