Add parallel Print Page Options

A Job a atebodd ac a ddywedodd, O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau! Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf. Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn. A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant? A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy? Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi. O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl! Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith. 10 Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd. 11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl? 12 Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres? 13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf? 14 I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog. 15 Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd; 16 Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt: 17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle. 18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir. 19 Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt. 20 Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant. 21 Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch. 22 A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi? 23 Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn? 24 Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais. 25 Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi? 26 Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt? 27 Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill. 28 Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd. 29 Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn. 30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?