Add parallel Print Page Options

36 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o’r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn. Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod. Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr. A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd. Am hynny dos di, a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau, eiriau yr Arglwydd, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr Arglwydd, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o’u dinasoedd, y darlleni di hwynt. Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn. Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd. Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd, i’r holl bobl yn Jerwsalem, ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem. 10 Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr Arglwydd, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd, lle y clybu yr holl bobl.

11 Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr Arglwydd allan o’r llyfr, 12 Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a’r holl dywysogion. 13 A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl. 14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt. 15 A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a’i darllenodd lle y clywsant hwy. 16 A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin. 17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef? 18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â’i enau, a minnau a’u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc. 19 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.

20 A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin. 21 A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a’i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin. 22 A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron. 23 A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd. 24 Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn. 25 Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt. 26 Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr Arglwydd a’u cuddiodd hwynt.

27 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, (wedi i’r brenin losgi y llyfr, a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd, 28 Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda: 29 A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddywedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni? 30 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd: a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rew y nos. 31 A mi a ymwelaf ag ef, ac â’i had, ac â’i weision, am eu hanwiredd; a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn, ond ni wrandawsant.

32 Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau.