Add parallel Print Page Options

10 Gwrandewch y gair a ddywed yr Arglwydd wrthych chwi, tŷ Israel: Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Na ddysgwch ffordd y cenhedloedd, ac nac ofnwch arwyddion y nefoedd: canys y cenhedloedd a’u hofnant hwy. Canys deddfau y bobloedd sydd oferedd: oherwydd cymyna un bren o’r coed, gwaith llaw y saer, â bwyell. Ag arian ac ag aur yr harddant ef; â hoelion ac â morthwylion y sicrhânt ef, fel na syflo. Megis palmwydden, syth ydynt hwy, ac ni lefarant: y mae yn rhaid eu dwyn hwy, am na allant gerdded. Nac ofnwch hwynt; canys ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes ynddynt. Yn gymaint ag nad oes neb fel tydi, Arglwydd: mawr wyt, a mawr yw dy enw mewn cadernid. Pwy ni’th ofna di, Brenin y cenhedloedd? canys i ti y gweddai: oherwydd ymysg holl ddoethion y cenhedloedd, ac ymysg eu holl deyrnasoedd hwy, nid oes neb fel tydi. Eithr cydynfydasant ac amhwyllasant: athrawiaeth oferedd yw cyff. Arian wedi ei yrru yn ddalennau a ddygir o Tarsis, ac aur o Uffas, gwaith y celfydd, a dwylo’r toddydd: sidan glas a phorffor yw eu gwisg hwy; gwaith y celfydd ŷnt oll. 10 Eithr yr Arglwydd ydyw y gwir Dduw, efe yw y Duw byw, a’r Brenin tragwyddol: rhag ei lid ef y cryna y ddaear, a’r cenhedloedd ni allant ddioddef ei soriant ef. 11 Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd. 12 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, efe a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a estynnodd y nefoedd trwy ei synnwyr. 13 Pan roddo efe ei lais, y bydd twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac efe a wna i’r tarth ddyrchafu o eithafoedd y ddaear: efe a wna fellt gyda’r glaw, ac a ddwg y gwynt allan o’i drysorau. 14 Ynfyd yw pob dyn yn ei wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd trwy y ddelw gerfiedig: canys celwydd yw ei ddelw dawdd, ac nid oes anadl ynddynt. 15 Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt. 16 Nid fel y rhai hyn yw rhan Jacob: canys lluniwr pob peth yw efe, ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef. Arglwydd y lluoedd yw ei enw. 17 Casgl o’r tir dy farsiandïaeth, yr hon wyt yn trigo yn yr amddiffynfa. 18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele fi yn taflu trigolion y tir y waith hon, a chyfyngaf arnynt, fel y caffont felly.

19 Gwae fi am fy mriw! dolurus yw fy archoll: ond mi a ddywedais, Yn ddiau dyma ofid, a mi a’i dygaf. 20 Fy mhabell i a anrheithiwyd, a’m rhaffau oll a dorrwyd; fy mhlant a aethant oddi wrthyf, ac nid ydynt: nid oes mwy a ledo fy mhabell, nac a gyfyd fy llenni. 21 Canys y bugeiliaid a ynfydasant, ac ni cheisiasant yr Arglwydd: am hynny ni lwyddant; a defaid eu porfa hwy oll a wasgerir. 22 Wele, trwst y sôn a ddaeth, a chynnwrf mawr o dir y gogledd, i osod dinasoedd Jwda yn ddiffeithwch, ac yn drigfan dreigiau.

23 Gwn, Arglwydd, nad eiddo dyn ei ffordd: nid ar law gŵr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad. 24 Cosba fi, Arglwydd, eto mewn barn; nid yn dy lid, rhag i ti fy ngwneuthur yn ddiddim. 25 Tywallt dy lid ar y cenhedloedd y rhai ni’th adnabuant, ac ar y teuluoedd ni alwasant ar dy enw: canys bwytasant Jacob, ie, bwytasant ef, difasant ef hefyd, ac anrheithiasant ei gyfannedd.