Add parallel Print Page Options

A’r trydydd dydd yr oedd priodas yng Nghana Galilea: a mam yr Iesu oedd yno. A galwyd yr Iesu hefyd a’i ddisgyblion i’r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo’r gwin. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, wraig? ni ddaeth fy awr i eto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwyr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfrlestri meini wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob un ddau ffircyn neu dri. Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfrlestri o ddwfr. A hwy a’u llanwasant hyd yr ymyl. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraethwr y wledd. A hwy a ddygasant. A phan brofodd llywodraethwr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddai o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaethwyr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent,) llywodraethwr y wledd a alwodd ar y priodfab, 10 Ac a ddywedodd wrtho, Pob dyn a esyd y gwin da yn gyntaf; ac wedi iddynt yfed yn dda, yna un a fo gwaeth: tithau a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. 11 Hyn o ddechrau gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yng Nghana Galilea, ac a eglurodd ei ogoniant; a’i ddisgyblion a gredasant ynddo.

12 Wedi hyn efe a aeth i waered i Gapernaum, efe, a’i fam, a’i frodyr, a’i ddisgyblion: ac yno nid arosasant nemor o ddyddiau.

13 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a’r Iesu a aeth i fyny i Jerwsalem; 14 Ac a gafodd yn y deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a’r newidwyr arian yn eistedd. 15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a’u gyrrodd hwynt oll allan o’r deml, y defaid hefyd a’r ychen; ac a dywalltodd allan arian y newidwyr, ac a ddymchwelodd y byrddau: 16 Ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi yma; na wnewch dŷ fy Nhad i yn dŷ marchnad. 17 A’i ddisgyblion a gofiasant fod yn ysgrifenedig, Sêl dy dŷ di a’m hysodd i.

18 Yna yr Iddewon a atebasant ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr wyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fod yn gwneuthur y pethau hyn? 19 Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi. 20 Yna yr Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y deml hon; ac a gyfodi di hi mewn tridiau? 21 Ond efe a ddywedasai am deml ei gorff. 22 Am hynny pan gyfododd efe o feirw, ei ddisgyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr ysgrythur, a’r gair a ddywedasai yr Iesu.

23 Ac fel yr oedd efe yn Jerwsalem ar y pasg yn yr ŵyl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethai efe. 24 Ond nid ymddiriedodd yr Iesu iddynt amdano ei hun, am yr adwaenai efe hwynt oll; 25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb iddo am ddyn: oherwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dyn.