Add parallel Print Page Options

11 Ac yr oedd un yn glaf, Lasarus o Fethania, o dref Mair a’i chwaer Martha. (A Mair ydoedd yr hon a eneiniodd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â’i gwallt, yr hon yr oedd ei brawd Lasarus yn glaf.) Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant ato ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae’r hwn sydd hoff gennyt ti, yn glaf. A’r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw’r clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mab Duw trwy hynny. A hoff oedd gan yr Iesu Martha, a’i chwaer, a Lasarus. Pan glybu efe gan hynny ei fod ef yn glaf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod. Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Awn i Jwdea drachefn. Y disgyblion a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di; ac a wyt ti yn myned yno drachefn? Yr Iesu a atebodd, Onid oes deuddeg awr o’r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda, am ei fod yn gweled goleuni’r byd hwn: 10 Ond os rhodia neb y nos, efe a dramgwydda, am nad oes goleuni ynddo. 11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lasarus yn huno; ond yr wyf fi’n myned i’w ddihuno ef. 12 Yna ei ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae, efe a fydd iach. 13 Ond yr Iesu a ddywedasai am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsg yr oedd efe yn dywedyd. 14 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur, Bu farw Lasarus. 15 Ac y mae’n llawen gennyf nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi, fel y credoch; ond awn ato ef. 16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd‐ddisgyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gydag ef. 17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a’i cafodd ef wedi bod weithian bedwar diwrnod yn y bedd. 18 A Bethania oedd yn agos i Jerwsalem, ynghylch pymtheg ystad oddi wrthi: 19 A llawer o’r Iddewon a ddaethent a Martha a Mair, i’w cysuro hwy am eu brawd. 20 Yna Martha, cyn gynted ag y clybu hi fod yr Iesu yn dyfod, a aeth i’w gyfarfod ef: ond Mair a eisteddodd yn y tŷ. 21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai farw fy mrawd. 22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti. 23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Atgyfodir dy frawd drachefn. 24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr atgyfodir ef yn yr atgyfodiad, y dydd diwethaf. 25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw’r atgyfodiad, a’r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynof fi, er iddo farw, a fydd byw: 26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynof fi, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti’n credu hyn? 27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf, Arglwydd: yr wyf fi yn credu mai ti yw’r Crist, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i’r byd. 28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw amdanat. 29 Cyn gynted ag y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth ato ef. 30 (A’r Iesu ni ddaethai eto i’r dref, ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasai Martha ag ef.) 31 Yna yr Iddewon y rhai oedd gyda hi yn y tŷ, ac yn ei chysuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frys, ac yn myned allan, a’i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi’n myned at y bedd, i wylo yno. 32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a’i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti yma, ni buasai fy mrawd farw. 33 Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a’r Iddewon y rhai a ddaethai gyda hi yn wylo, a riddfanodd yn yr ysbryd, ac a gynhyrfwyd; 34 Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl. 35 Yr Iesu a wylodd. 36 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele, fel yr oedd yn ei garu ef. 37 Eithr rhai ohonynt a ddywedasant, Oni allasai hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasai hwn farw chwaith? 38 Yna yr Iesu drachefn a riddfanodd ynddo’i hunan, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd, a maen oedd wedi ei ddodi arno. 39 Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymaith y maen. Martha, chwaer yr hwn a fuasai farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae yn farw er ys pedwar diwrnod. 40 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, y cait ti weled gogoniant Duw? 41 Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A’r Iesu a gododd ei olwg i fyny, ac a ddywedodd, Y Tad, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf. 42 Ac myfi a wyddwn dy fod di yn fy ngwrando bob amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch y dywedais, fel y credont mai tydi a’m hanfonaist i. 43 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef uchel, Lasarus, tyred allan. 44 A’r hwn a fuasai farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a’i ddwylo mewn amdo: a’i wyneb oedd wedi ei rwymo â napgyn. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gadewch iddo fyned ymaith. 45 Yna llawer o’r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethai yr Iesu, a gredasant ynddo ef. 46 Eithr rhai ohonynt a aethant ymaith at y Phariseaid, ac a ddywedasant iddynt y pethau a wnaethai yr Iesu.

47 Yna yr archoffeiriaid a’r Phariseaid a gasglasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae’r dyn yma yn gwneuthur llawer o arwyddion. 48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo; ac fe a ddaw’r Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni a’n cenedl hefyd. 49 A rhyw un ohonynt, Caiaffas, yr hwn oedd archoffeiriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi’n gwybod dim oll, 50 Nac yn ystyried, mai buddiol yw i ni, farw o un dyn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl. 51 Hyn ni ddywedodd efe ohono ei hun: eithr, ac efe yn archoffeiriad y flwyddyn honno, efe a broffwydodd y byddai’r Iesu farw dros y genedl; 52 Ac nid dros y genedl yn unig, eithr fel y casglai efe ynghyd yn un blant Duw hefyd y rhai a wasgarasid. 53 Yna o’r dydd hwnnw allan y cyd-ymgyngorasant fel y lladdent ef. 54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ymysg yr Iddewon; ond efe a aeth oddi yno i’r wlad yn agos i’r anialwch, i ddinas a elwir Effraim, ac a arhosodd yno gyda’i ddisgyblion.

55 A phasg yr Iddewon oedd yn agos: a llawer a aethant o’r wlad i fyny i Jerwsalem o flaen y pasg, i’w glanhau eu hunain. 56 Yna y ceisiasant yr Iesu; a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i’r ŵyl? 57 A’r archoffeiriaid a’r Phariseaid a roesant orchymyn, os gwyddai neb pa le yr oedd efe, ar fynegi ohono, fel y gallent ei ddal ef.