Add parallel Print Page Options

Yn y seithfed mis, ar yr unfed dydd ar hugain o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd trwy law y proffwyd Haggai, gan ddywedyd, Dywed yn awr wrth Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac wrth Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac wrth weddill y bobl, gan ddywedyd, Pwy yn eich plith a adawyd, yr hwn a welodd y tŷ hwn yn ei ogoniant cyntaf? a pha fodd y gwelwch chwi ef yr awr hon? onid yw wrth hwnnw yn eich golwg fel peth heb ddim? Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr Arglwydd; ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad; ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr Arglwydd, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd Arglwydd y lluoedd: Yn ôl y gair a amodais â chwi pan ddaethoch allan o’r Aifft, felly yr erys fy ysbryd yn eich mysg: nac ofnwch. Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Unwaith eto, ennyd fechan yw, a mi a ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear, a’r môr, a’r sychdir; Ysgydwaf hefyd yr holl genhedloedd, a dymuniant yr holl genhedloedd a ddaw: llanwaf hefyd y tŷ hwn â gogoniant, medd Arglwydd y lluoedd. Eiddof fi yr arian, ac eiddof fi yr aur, medd Arglwydd y lluoedd. Bydd mwy gogoniant y tŷ diwethaf hwn na’r cyntaf, medd Arglwydd y lluoedd: ac yn y lle hwn y rhoddaf dangnefedd, medd Arglwydd y lluoedd.

10 Ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr Arglwydd trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd, 11 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gofyn yr awr hon i’r offeiriaid y gyfraith, gan ddywedyd, 12 Os dwg un gig sanctaidd yng nghwr ei wisg, ac â’i gwr a gyffwrdd â’r bara, neu â’r cawl, neu â’r gwin, neu â’r olew, neu â dim o’r bwyd, a fyddant hwy sanctaidd? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Na fyddant. 13 A Haggai a ddywedodd, Os un a fo aflan gan gorff marw a gyffwrdd â dim o’r rhai hyn, a fyddant hwy aflan? A’r offeiriaid a atebasant ac a ddywedasant, Byddant aflan. 14 Yna yr atebodd Haggai, ac a ddywedodd, Felly y mae y bobl hyn, ac felly y mae y genhedlaeth hon ger fy mron, medd yr Arglwydd; ac felly y mae holl waith eu dwylo, a’r hyn a aberthant yno, yn aflan. 15 Ac yr awr hon meddyliwch, atolwg, o’r diwrnod hwn allan a chynt, cyn gosod carreg ar garreg yn nheml yr Arglwydd; 16 Er pan oedd y dyddiau hynny pan ddelid at dwr o ugain llestraid, deg fyddai; pan ddelid at y gwinwryf i dynnu deg llestraid a deugain o’r cafn, ugain a fyddai yno. 17 Trewais chwi â diflaniad, ac â mallter, ac â chenllysg, yn holl waith eich dwylo; a chwithau ni throesoch ataf fi, medd yr Arglwydd. 18 Ystyriwch yr awr hon o’r dydd hwn ac er cynt, o’r pedwerydd dydd ar hugain o’r nawfed mis, ac ystyriwch o’r dydd y sylfaenwyd teml yr Arglwydd. 19 A yw yr had eto yn yr ysgubor? y winwydden hefyd, y ffigysbren, a’r pomgranad, a’r pren olewydd, ni ffrwythasant: o’r dydd hwn allan y bendithiaf chwi.

20 A gair yr Arglwydd a ddaeth eilwaith at Haggai, ar y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis, gan ddywedyd, 21 Llefara wrth Sorobabel tywysog Jwda, gan ddywedyd, Myfi a ysgydwaf y nefoedd a’r ddaear; 22 A mi a ymchwelaf deyrngadair teyrnasoedd, ac a ddinistriaf gryfder breniniaethau y cenhedloedd; ymchwelaf hefyd y cerbydau, a’r rhai a eisteddant ynddynt; a’r meirch a’u marchogion a syrthiant, bob un gan gleddyf ei frawd. 23 Y diwrnod hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, y’th gymeraf di, fy ngwas Sorobabel, mab Salathiel, medd yr Arglwydd, ac y’th wnaf fel sêl: canys mi a’th ddewisais di, medd Arglwydd y lluoedd.