Add parallel Print Page Options

28 Yna y galwodd Isaac ar Jacob, ac a’i bendithiodd ef: efe a orchmynnodd iddo hefyd, ac a ddywedodd wrtho, Na chymer wraig o ferched Canaan. Cyfod, dos i Mesopotamia, i dŷ Bethuel tad dy fam; a chymer i ti wraig oddi yno, o ferched Laban brawd dy fam: A Duw Hollalluog a’th fendithio, ac a’th ffrwythlono, ac a’th luosogo, fel y byddech yn gynulleidfa pobloedd: Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyda thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham. Felly Isaac a anfonodd ymaith Jacob: ac efe a aeth i Mesopotamia, at Laban fab Bethuel y Syriad, brawd Rebeca, mam Jacob ac Esau.

Pan welodd Esau fendithio o Isaac Jacob, a’i anfon ef i Mesopotamia, i gymryd iddo wraig oddi yno, a gorchymyn iddo wrth ei fendithio, gan ddywedyd, Na chymer wraig o ferched Canaan; A gwrando o Jacob ar ei dad, ac ar ei fam, a’i fyned i Mesopotamia; Ac Esau yn gweled mai drwg oedd merched Canaan yng ngolwg Isaac ei dad; Yna Esau a aeth at Ismael, ac a gymerodd Mahalath merch Ismael mab Abraham, chwaer Nebaioth, yn wraig iddo, at ei wragedd eraill.

10 A Jacob a aeth allan o Beer‐seba, ac a aeth tua Haran. 11 Ac a ddaeth ar ddamwain i fangre, ac a letyodd yno dros nos; oblegid machludo’r haul: ac efe a gymerth o gerrig y lle hwnnw, ac a osododd dan ei ben, ac a gysgodd yn y fan honno. 12 Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angylion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd‐ddi. 13 Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had. 14 A’th had di fydd fel llwch y ddaear; a thi a dorri allan i’r gorllewin, ac i’r dwyrain, ac i’r gogledd, ac i’r deau: a holl deuluoedd y ddaear a fendithir ynot ti, ac yn dy had di. 15 Ac wele fi gyda thi; ac mi a’th gadwaf pa le bynnag yr elych, ac a’th ddygaf drachefn i’r wlad hon: oherwydd ni’th adawaf, hyd oni wnelwyf yr hyn a leferais wrthyt.

16 A Jacob a ddeffrôdd o’i gwsg; ac a ddywedodd, Diau fod yr Arglwydd yn y lle hwn, ac nis gwyddwn i. 17 Ac efe a ofnodd, ac a ddywedodd, Mor ofnadwy yw’r lle hwn! nid oes yma onid tŷ i Dduw, a dyma borth y nefoedd. 18 A Jacob a gyfododd yn fore, ac a gymerth y garreg a osodasai efe dan ei ben, ac efe a’i gosododd hi yn golofn, ac a dywalltodd olew ar ei phen hi. 19 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Bethel: ond Lus fuasai enw y ddinas o’r cyntaf. 20 Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyda myfi, ac a’m ceidw yn y ffordd yma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdded, a rhoddi i mi fara i’w fwyta, a dillad i’w gwisgo, 21 A dychwelyd ohonof mewn heddwch i dŷ fy nhad; yna y bydd yr Arglwydd yn Dduw i mi. 22 A’r garreg yma, yr hon a osodais yn golofn, a fydd yn dŷ Dduw; ac o’r hyn oll a roddech i mi, gan ddegymu mi a’i degymaf i ti.