Add parallel Print Page Options

27 A bu, wedi heneiddio o Isaac, a thywyllu ei lygaid fel na welai, alw ohono ef Esau ei fab hynaf, a dywedyd wrtho, Fy mab. Yntau a ddywedodd wrtho ef, Wele fi. Ac efe a ddywedodd, Wele, mi a heneiddiais yn awr, ac nis gwn ddydd fy marwolaeth. Ac yn awr cymer, atolwg, dy offer, dy gawell saethau, a’th fwa, a dos allan i’r maes, a hela i mi helfa. A gwna i mi flasusfwyd o’r fath a garaf, a dwg i mi, fel y bwytawyf; fel y’th fendithio fy enaid cyn fy marw. A Rebeca a glybu pan ddywedodd Isaac wrth Esau ei fab: ac Esau a aeth i’r maes, i hela helfa i’w dwyn.

A Rebeca a lefarodd wrth Jacob ei mab, gan ddywedyd, Wele, clywais dy dad yn llefaru wrth Esau dy frawd, gan ddywedyd, Dwg i mi helfa, a gwna i mi flasusfwyd, fel y bwytawyf, ac y’th fendithiwyf gerbron yr Arglwydd cyn fy marw. Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais i, am yr hyn a orchmynnaf i ti. Dos yn awr i’r praidd, a chymer i mi oddi yno ddau fyn gafr da; a mi a’u gwnaf hwynt yn fwyd blasus i’th dad, o’r fath a gâr efe. 10 A thi a’u dygi i’th dad, fel y bwytao, ac y’th fendithio cyn ei farw. 11 A dywedodd Jacob wrth Rebeca ei fam, Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog, a minnau yn ŵr llyfn: 12 Fy nhad, ond odid, a’m teimla; yna y byddaf yn ei olwg ef fel twyllwr; ac a ddygaf arnaf felltith, ac nid bendith. 13 A’i fam a ddywedodd wrtho, Arnaf fi y byddo dy felltith, fy mab, yn unig gwrando ar fy llais; dos a dwg i mi. 14 Ac efe a aeth, ac a gymerth y mynnod, ac a’u dygodd at ei fam: a’i fam a wnaeth fwyd blasus o’r fath a garai ei dad ef. 15 Rebeca hefyd a gymerodd hoff wisgoedd Esau ei mab hynaf, y rhai oedd gyda hi yn tŷ, ac a wisgodd Jacob ei mab ieuangaf. 16 A gwisgodd hefyd grwyn y mynnod geifr am ei ddwylo ef, ac am lyfndra ei wddf ef: 17 Ac a roddes y bwyd blasus, a’r bara a arlwyasai hi, yn llaw Jacob ei mab.

18 Ac efe a ddaeth at ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi: pwy wyt ti, fy mab? 19 A dywedodd Jacob wrth ei dad, Myfi yw Esau dy gyntaf‐anedig: gwneuthum fel y dywedaist wrthyf: cyfod, atolwg, eistedd, a bwyta o’m helfa, fel y’m bendithio dy enaid. 20 Ac Isaac a ddywedodd wrth ei fab, Pa fodd, fy mab, y cefaist mor fuan â hyn? Yntau a ddywedodd, Am i’r Arglwydd dy Dduw beri iddo ddigwyddo o’m blaen. 21 A dywedodd Isaac wrth Jacob, Tyred yn nes yn awr, fel y’th deimlwyf, fy mab; ai tydi yw fy mab Esau, ai nad e. 22 A nesaodd Jacob at Isaac ei dad: yntau a’i teimlodd; ac a ddywedodd, Y llais yw llais Jacob; a’r dwylo, dwylo Esau ydynt. 23 Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog: felly efe a’i bendithiodd ef. 24 Dywedodd hefyd, Ai ti yw fy mab Esau? Yntau a ddywedodd, Myfi yw. 25 Ac efe a ddywedodd, Dwg yn nes ataf fi, a mi a fwytâf o helfa fy mab, fel y’th fendithio fy enaid. Yna y dug ato ef, ac efe a fwytaodd: dug iddo win hefyd ac efe a yfodd. 26 Yna y dywedodd Isaac ei dad wrtho ef, Tyred yn nes yn awr, a chusana fi, fy mab. 27 Yna y daeth efe yn nes, ac a’i cusanodd ef; ac a aroglodd arogl ei wisgoedd ef, ac a’i bendithiodd ef, ac a ddywedodd, Wele arogl fy mab fel arogl maes, yr hwn a fendithiodd yr Arglwydd. 28 A rhodded Duw i ti o wlith y nefoedd, ac o fraster y ddaear, ac amldra o ŷd a gwin: 29 Gwasanaethed pobloedd dydi, ac ymgrymed cenhedloedd i ti: bydd di arglwydd ar dy frodyr, ac ymgrymed meibion dy fam i ti: melltigedig fyddo a’th felltithio, a bendigedig a’th fendithio.

30 A bu, pan ddarfu i Isaac fendithio Jacob, ac i Jacob yn brin fyned allan o ŵydd Isaac ei dad, yna Esau ei frawd a ddaeth o’i hela. 31 Ac yntau hefyd a wnaeth fwyd blasus, ac a’i dug at ei dad; ac a ddywedodd wrth ei dad, Cyfoded fy nhad, a bwytaed o helfa ei fab, fel y’m bendithio dy enaid. 32 Ac Isaac ei dad a ddywedodd wrtho, Pwy wyt ti? Yntau a ddywedodd, Myfi yw dy fab, dy gyntaf‐anedig Esau. 33 Ac Isaac a ddychrynodd â dychryn mawr iawn, ac a ddywedodd, Pwy? pa le mae yr hwn a heliodd helfa, ac a’i dug i mi, a mi a fwyteais o’r cwbl cyn dy ddyfod, ac a’i bendithiais ef? bendigedig hefyd fydd efe. 34 Pan glybu Esau eiriau ei dad, efe a waeddodd â gwaedd fawr a chwerw iawn, ac a ddywedodd wrth ei dad, Bendithia fi, ie finnau, fy nhad. 35 Ac efe a ddywedodd, Dy frawd a ddaeth mewn twyll, ac a ddug dy fendith di. 36 Dywedodd yntau, Onid iawn y gelwir ei enw ef Jacob? canys efe a’m disodlodd i ddwy waith bellach: dug fy ngenedigaeth‐fraint; ac wele, yn awr efe a ddygodd fy mendith: dywedodd hefyd, Oni chedwaist gyda thi fendith i minnau? 37 Ac Isaac a atebodd, ac a ddywedodd wrth Esau, Wele, mi a’i gwneuthum ef yn arglwydd i ti, a rhoddais ei holl frodyr yn weision iddo ef; ag ŷd a gwin y cynheliais ef: a pheth a wnaf i tithau, fy mab, weithian? 38 Ac Esau a ddywedodd wrth ei dad, Ai un fendith sydd gennyt, fy nhad? bendithia finnau, finnau hefyd, fy nhad. Felly Esau a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 39 Yna yr atebodd Isaac ei dad, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ym mraster y ddaear y bydd dy breswylfod, ac ymysg gwlith y nefoedd oddi uchod; 40 Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.

41 Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesáu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd. 42 A mynegwyd i Rebeca eiriau Esau ei mab hynaf. Hithau a anfonodd, ac a alwodd am Jacob ei mab ieuangaf, ac a ddywedodd wrtho, Wele, Esau dy frawd sydd yn ymgysuro o’th blegid di, ar fedr dy ladd di. 43 Ond yn awr, fy mab, gwrando ar fy llais: cyfod, ffo at Laban fy mrawd, i Haran; 44 Ac aros gydag ef ychydig ddyddiau, hyd oni chilio llid dy frawd; 45 Hyd oni chilio digofaint dy frawd oddi wrthyt, ac anghofio ohono ef yr hyn a wnaethost iddo: yna yr anfonaf ac y’th gyrchaf oddi yno. Paham y byddwn yn amddifad ohonoch eich dau mewn un dydd? 46 Dywedodd Rebeca hefyd wrth Isaac, Blinais ar fy einioes oherwydd merched Heth: os cymer Jacob wraig o ferched Heth, fel y rhai hyn o ferched y wlad, i ba beth y chwenychwn fy einioes?