Add parallel Print Page Options

Ac wedi hynny, Moses ac Aaron a aethant i mewn, ac a ddywedasant wrth Pharo, Fel hyn y dywedodd Arglwydd Dduw Israel; Gollwng ymaith fy mhobl, fel y cadwont ŵyl i mi yn yr anialwch. A dywedodd Pharo, Pwy yw yr Arglwydd, fel y gwrandawn i ar ei lais, i ollwng Israel ymaith? Yr Arglwydd nid adwaen, ac Israel ni ollyngaf. A dywedasant hwythau, Duw yr Hebreaid a gyfarfu â ni: gad i ni fyned, atolwg, daith tridiau yn yr anialwch, ac aberthu i’r Arglwydd ein Duw; rhag iddo ein rhuthro â haint, neu â chleddyf. A dywedodd brenin yr Aifft wrthynt, Moses ac Aaron, paham y perwch i’r bobl beidio â’u gwaith? ewch at eich beichiau. Pharo hefyd a ddywedodd, Wele, pobl y wlad yn awr ydynt lawer, a pharasoch iddynt beidio â’u llwythau. A gorchmynnodd Pharo, y dydd hwnnw, i’r rhai oedd feistriaid gwaith ar y bobl, a’u swyddogion, gan ddywedyd, Na roddwch mwyach wellt i’r bobl i wneuthur priddfeini, megis o’r blaen; elont a chasglant wellt iddynt eu hunain. A rhifedi’r priddfeini y rhai yr oeddynt hwy yn ei wneuthur o’r blaen a roddwch arnynt; na leihewch o hynny: canys segur ydynt; am hynny y maent yn gweiddi, gan ddywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’n Duw. Trymhaer y gwaith ar y gwŷr, a gweithiant ynddo; fel nad edrychant am eiriau ofer.

10 A meistriaid gwaith y bobl, a’u swyddogion, a aethant allan, ac a lefarasant wrth y bobl, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Pharo, Ni roddaf wellt i chwi. 11 Ewch chwi, a cheisiwch i chwi wellt lle y caffoch; er hynny ni leiheir dim o’ch gwaith. 12 A’r bobl a ymwasgarodd trwy holl wlad yr Aifft, i gasglu sofl yn lle gwellt. 13 A’r meistriaid gwaith oedd yn eu prysuro, gan ddywedyd, Gorffennwch eich gwaith, dogn dydd yn ei ddydd, megis pan oedd gwellt. 14 A churwyd swyddogion meibion Israel, y rhai a osodasai meistriaid gwaith Pharo arnynt hwy; a dywedwyd, Paham na orffenasoch eich tasg, ar wneuthur priddfeini, ddoe a heddiw, megis cyn hynny?

15 Yna swyddogion meibion Israel a ddaethant ac a lefasant ar Pharo, gan ddywedyd, Paham y gwnei fel hyn â’th weision? 16 Gwellt ni roddir i’th weision; a Gwnewch briddfeini i ni, meddant: ac wele dy weision a gurwyd; a’th bobl di dy hun sydd ar y bai. 17 Ac efe a ddywedodd, Segur, segur ydych; am hynny yr ydych chwi yn dywedyd, Gad i ni fyned ac aberthu i’r Arglwydd. 18 Am hynny ewch yn awr, gweithiwch; ac ni roddir gwellt i chwi; eto chwi a roddwch yr un cyfrif o’r priddfeini. 19 A swyddogion meibion Israel a’u gwelent eu hun mewn lle drwg, pan ddywedid, Na leihewch ddim o’ch priddfeini, dogn dydd yn ei ddydd.

20 A chyfarfuant â Moses ac Aaron, yn sefyll ar eu ffordd, pan oeddynt yn dyfod allan oddi wrth Pharo: 21 A dywedasant wrthynt, Edryched yr Arglwydd arnoch chwi, a barned; am i chwi beri i’n sawyr ni ddrewi gerbron Pharo, a cherbron ei weision, gan roddi cleddyf yn eu llaw hwynt i’n lladd ni. 22 A dychwelodd Moses at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, paham y drygaist y bobl hyn? i ba beth y’m hanfonaist? 23 Canys er pan ddeuthum at Pharo, i lefaru yn dy enw di, efe a ddrygodd y bobl hyn; a chan waredu ni waredaist dy bobl.