Add parallel Print Page Options

18 Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aifft; Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,) A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol. Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo. A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw. Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a’th wraig a’i dau fab gyda hi.

A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell. A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i’r Eifftiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt. A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid. 10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid. 11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt. 12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.

13 A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o’r bore hyd yr hwyr. 14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr? 15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw. 16 Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau. 17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur. 18 Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun. 19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw. 20 Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnânt. 21 Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni Duw, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd‐dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. 22 A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi. 23 Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhau, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch. 24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe. 25 A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. 26 A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.

27 A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.