Add parallel Print Page Options

51 Gwrandewch arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr Arglwydd: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt. Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch esgorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef. Oherwydd yr Arglwydd a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr Arglwydd: ceir ynddi lawenydd a hyfrydwch, diolch, a llais cân.

Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd. Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich. Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd.

Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad. Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth.

Deffro, deffro, gwisg nerth, O fraich yr Arglwydd; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaist y ddraig? 10 Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr, dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd? 11 Am hynny y dychwel gwaredigion yr Arglwydd, a hwy a ddeuant i Seion â chanu, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pennau: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. 12 Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a wneir fel glaswelltyn? 13 Ac a anghofi yr Arglwydd dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a ofnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio? a pha le y mae llid y gorthrymydd? 14 Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef. 15 Eithr myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw Arglwydd y lluoedd. 16 Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt.

17 Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr Arglwydd gwpan ei lidiowgrwydd ef; yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef. 18 Nid oes arweinydd iddi o’r holl feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd. 19 Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf? 20 Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mhen pob heol, fel tarw gwyllt mewn magl: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr Arglwydd, a cherydd dy Dduw.

21 Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid trwy win. 22 Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr Arglwydd, a’th Dduw di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ei yfed mwy: 23 Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.