Add parallel Print Page Options

48 Gwrandewch hyn, tŷ Jacob, y rhai a elwir ar enw Israel, ac a ddaethant allan o ddyfroedd Jwda; y rhai a dyngant i enw yr Arglwydd, ac a goffânt am Dduw Israel, nid mewn gwirionedd, nac mewn cyfiawnder. Canys hwy a’u galwant eu hunain o’r ddinas sanctaidd, ac a bwysant ar Dduw Israel; enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. Y pethau gynt a fynegais er y pryd hwnnw, a daethant o’m genau, a mi a’u traethais; mi a’u gwneuthum yn ddisymwth, daethant i ben. Oherwydd i mi wybod dy fod di yn galed, a’th war fel giewyn haearn, a’th dalcen yn bres; Mi a’i mynegais i ti er y pryd hwnnw; adroddais i ti cyn ei ddyfod; rhag dywedyd ohonot, Fy nelw a’u gwnaeth, fy ngherfddelw a’m tawdd‐ddelw a’u gorchmynnodd. Ti a glywaist, gwêl hyn oll; ac oni fynegwch chwithau ef? adroddais i ti bethau newyddion o’r pryd hwn, a phethau cuddiedig, y rhai ni wyddit oddi wrthynt. Yn awr y crewyd hwynt, ac nid er y dechreuad, cyn y dydd ni chlywaist sôn amdanynt: rhag dywedyd ohonot, Wele, gwyddwn hwynt. Ie, nis clywsit, ac nis gwyddit chwaith, nid agorasid dy glust y pryd hwnnw: canys gwyddwn y byddit lwyr anffyddlon, a’th alw o’r groth yn droseddwr.

Er mwyn fy enw yr oedaf fy llid, ac er fy mawl yr ymataliaf oddi wrthyt, rhag dy ddifetha. 10 Wele, myfi a’th burais, ond nid fel arian; dewisais di mewn pair cystudd. 11 Er fy mwyn fy hun, er fy mwyn fy hun, y gwnaf hyn; canys pa fodd yr halogid fy enw? ac ni roddaf fy ngogoniant i arall.

12 Gwrando arnaf fi, Jacob, ac Israel, yr hwn a elwais: myfi yw; myfi yw y cyntaf, a mi yw y diwethaf. 13 Fy llaw i hefyd a seiliodd y ddaear, a’m deheulaw i a rychwantodd y nefoedd: pan alwyf fi arnynt, hwy a gydsafant. 14 Ymgesglwch oll, a gwrandewch; pwy ohonynt hwy a fynegodd hyn? Yr Arglwydd a’i hoffodd; efe a wna ei ewyllys ar Babilon, a’i fraich a fydd ar y Caldeaid. 15 Myfi, myfi a leferais, ac a’i gelwais ef: dygais ef, ac efe a lwydda ei ffordd ef.

16 Nesewch ataf, gwrandewch hyn; ni leferais o’r cyntaf yn ddirgel; er y pryd y mae hynny yr ydwyf finnau yno: ac yn awr yr Arglwydd Dduw a’i Ysbryd a’m hanfonodd. 17 Fel hyn y dywed yr Arglwydd dy Waredydd, Sanct Israel; Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn wyf yn dy ddysgu di i wellhau, gan dy arwain yn y ffordd y dylit rodio. 18 O na wrandawsit ar fy ngorchmynion! yna y buasai dy heddwch fel afon, a’th gyfiawnder fel tonnau y môr: 19 A buasai dy had fel y tywod, ac epil dy gorff fel ei raean ef: ni thorasid, ac ni ddinistriasid ei enw oddi ger fy mron.

20 Ewch allan o Babilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid, â llef gorfoledd mynegwch ac adroddwch hyn, traethwch ef hyd eithafoedd y ddaear; dywedwch, Gwaredodd yr Arglwydd ei was Jacob. 21 Ac ni sychedasant pan arweiniodd hwynt yn yr anialwch: gwnaeth i ddwfr bistyllio iddynt o’r graig: holltodd y graig hefyd, a’r dwfr a ddylifodd. 22 Nid oes heddwch, medd yr Arglwydd, i’r rhai annuwiol.