Add parallel Print Page Options

45 Fel hyn y dywed yr Arglwydd wrth ei eneiniog, wrth Cyrus, yr hwn yr ymeflais i yn ei ddeheulaw, i ddarostwng cenhedloedd o’i flaen ef: a mi a ddatodaf lwynau brenhinoedd; i agoryd y dorau o’i flaen ef; a’r pyrth ni chaeir: Mi a af o’th flaen di, ac a unionaf y gwyrgeimion; y dorau pres a dorraf, a’r barrau heyrn a ddrylliaf: Ac a roddaf i ti drysorau cuddiedig, a chuddfeydd dirgel, fel y gwypech mai myfi yr Arglwydd, yr hwn a’th alwodd erbyn dy enw, yw Duw Israel. Er mwyn Jacob fy ngwas, ac Israel fy etholedig, y’th elwais erbyn dy enw: mi a’th gyfenwais, er na’m hadwaenit.

Myfi ydwyf yr Arglwydd, ac nid arall, nid oes Duw ond myfi; gwregysais di, er na’m hadwaenit: Fel y gwypont o godiad haul, ac o’r gorllewin, nad neb ond myfi: myfi yw yr Arglwydd, ac nid arall: Yn llunio goleuni, ac yn creu tywyllwch; yn gwneuthur llwyddiant, ac yn creu drygfyd: myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll. Defnynnwch, nefoedd, oddi uchod, a thywallted yr wybrennau gyfiawnder; ymagored y ddaear, ffrwythed iachawdwriaeth a chyfiawnder, cyd‐darddant: myfi yr Arglwydd a’u creais. Gwae a ymrysono â’i Luniwr. Ymrysoned priddell â phriddellau y ddaear. A ddywed y clai wrth ei luniwr, Beth a wnei? neu, Y mae dy waith heb ddwylo iddo? 10 Gwae a ddywedo wrth ei dad, Beth a genhedli? neu wrth y wraig, Beth a esgoraist? 11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Sanct Israel, a’i Luniwr, Gofynnwch i mi y pethau a ddaw am fy meibion, a gorchmynnwch fi am waith fy nwylo. 12 Myfi a wneuthum y ddaear, ac a greais ddyn arni: myfi, ie, fy nwylo i a estynasant y nefoedd, ac a orchmynnais eu holl luoedd. 13 Myfi a’i cyfodais ef mewn cyfiawnder, a’i holl ffyrdd a gyfarwyddaf; efe a adeilada fy ninas, efe a ollwng fy ngharcharorion, heb na gwerth na gobrwy, medd Arglwydd y lluoedd. 14 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Llafur yr Aifft, a marsiandïaeth Ethiopia, a’r Sabeaid hirion, a ddeuant atat ti, ac eiddot ti fyddant; ar dy ôl y deuant; mewn cadwyni y deuant trosodd, ac ymgrymant i ti; atat y gweddïant, gan ddywedyd, Yn ddiau ynot ti y mae Duw, ac nid oes arall, nac oes Duw. 15 Ti yn ddiau wyt Dduw yn ymguddio, O Dduw Israel yr Achubwr! 16 Cywilyddir a gwaradwyddir hwynt oll; seiri delwau a ânt ynghyd i waradwydd. 17 Israel a achubir yn yr Arglwydd â iachawdwriaeth dragwyddol: ni’ch cywilyddir ac ni’ch gwaradwyddir byth bythoedd. 18 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Creawdydd y nefoedd, y Duw ei hun a luniodd y ddaear, ac a’i gwnaeth; efe a’i sicrhaodd hi, ni chreodd hi yn ofer, i’w phreswylio y lluniodd hi: Myfi yw yr Arglwydd, ac nid neb amgen. 19 Ni leferais mewn dirgelwch, mewn man tywyll o’r ddaear; ni ddywedais wrth had Jacob, Ceisiwch fi yn ofer. Myfi yr Arglwydd wyf yn llefaru cyfiawnder, ac yn mynegi pethau uniawn.

20 Ymgesglwch, a deuwch; cydnesewch, rai dihangol y cenhedloedd; nid oes gwybodaeth gan y rhai a ddyrchafant goed eu cerfddelw, ac a weddïant dduw ni all achub. 21 Mynegwch, a nesewch hwynt; cydymgynghorant hefyd; pwy a draethodd hyn er cynt? pwy a’i mynegodd er y pryd hwnnw? onid myfi yr Arglwydd? ac nid oes Duw arall ond myfi; yn Dduw cyfiawn, ac yn achubydd; nid oes ond myfi. 22 Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrrau y ddaear, fel y’ch achuber: canys myfi wyf Dduw, ac nid neb arall. 23 I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac ni ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. 24 Yn ddiau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth; ato ef y deuir; a chywilyddir pawb a ddigiant wrtho. 25 Yn yr Arglwydd y cyfiawnheir, ac yr ymogonedda holl had Israel.