Add parallel Print Page Options

35 Yr anialwch a’r anghyfanheddle a lawenychant o’u plegid; y diffeithwch hefyd a orfoledda, ac a flodeua fel rhosyn. Gan flodeuo y blodeua, ac y llawenycha hefyd â llawenydd ac â chân: gogoniant Libanus a roddir iddo, godidowgrwydd Carmel a Saron: hwy a welant ogoniant yr Arglwydd, a godidowgrwydd ein Duw ni.

Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid. Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw â dial, ie, Duw â thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir. Yna y llama y cloff fel hydd, ac y cân tafod y mudan: canys dyfroedd a dyr allan yn yr anialwch, ac afonydd yn y diffeithwch. Y crastir hefyd fydd yn llyn, a’r tir sychedig yn ffynhonnau dyfroedd; yn nhrigfa y dreigiau, a’u gorweddfa, y bydd cyfle corsennau a brwyn. Yna y bydd priffordd, a ffordd; a Ffordd sanctaidd y gelwir hi: yr halogedig nid â ar hyd‐ddi; canys hi a fydd i’r rhai hynny: a rodio y ffordd, pe byddent ynfydion, ni chyfeiliornant. Ni bydd yno lew, a bwystfil gormesol ni ddring iddi, ac nis ceir yno; eithr y rhai gwaredol a rodiant yno. 10 A gwaredigion yr Arglwydd a ddychwelant, ac a ddeuant i Seion â chaniadau, ac â llawenydd tragwyddol ar eu pen: goddiweddant lawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar a ffy ymaith.