Add parallel Print Page Options

21 Baich anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwodd; felly y daw o’r anialwch, o wlad ofnadwy. Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a’r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i’w holl riddfan hi ddarfod. Am hynny y llanwyd fy llwynau o ddolur; gwewyr a’m daliasant fel gwewyr gwraig yn esgor; syrthiais wrth ei glywed, brawychais wrth ei weled. Cyfeiliornodd fy nghalon, braw a’m dychrynodd; efe a drodd fy nghyfnos ddymunol yn ddychryn i mi. Paratoa y bwrdd, gwylia yn y ddisgwylfa, bwyta, yf; cyfodwch, dywysogion; eneiniwch y darian. Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dos, gosod wyliedydd, myneged yr hyn a welo. Ac efe a welodd gerbyd, a dau o wŷr meirch, cerbyd asynnod, a cherbyd camelod; ac efe a ystyriodd yn ddyfal iawn dros ben. Ac efe a lefodd, Llew: fy arglwydd, ar y ddisgwylfa yr wyf fi yn sefyll liw dydd yn wastad, ac ar fy nghadwriaeth yr ydwyf yn sefyll bob nos. Ac wele, yma y mae yn dyfod gerbyd o wŷr, a dau o wŷr meirch. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon; a holl ddelwau cerfiedig ei duwiau hi a ddrylliodd efe i lawr. 10 O fy nyrniad, a chnwd fy llawr dyrnu! yr hyn a glywais gan Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, a fynegais i chwi.

11 Baich Duma, Arnaf fi y mae yn galw o Seir, Y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? y gwyliedydd, beth am y nos? 12 Dywedodd y gwyliedydd, Daeth y bore a’r nos hefyd: os ceisiwch, ceisiwch: dychwelwch, deuwch.

13 Baich ar Arabia. Yn y coed yn Arabia y lletywch chwi, fforddolion Dedanim. 14 Dygwch ddyfroedd i gyfarfod â’r sychedig, trigolion tir Tema, achubwch flaen y crwydrus â’i fara. 15 Oherwydd rhag cleddyfau y ffoesant, rhag y cleddyf noeth, a rhag y bwa anelog, a rhag trymder rhyfel. 16 Oherwydd fel hyn y dywedodd yr Arglwydd wrthyf fi, Cyn pen blwyddyn, o fath blwyddyn gwas cyflog, y derfydd hefyd holl anrhydedd Cedar: 17 A’r gweddill o rifedi saethyddion gwŷr cedyrn meibion Cedar, a leiheir: canys Arglwydd Dduw Israel a’i dywedodd.