Add parallel Print Page Options

A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Tithau, fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth dir Israel; Diwedd, diwedd a ddaeth ar bedair congl y tir. Daeth yr awr hon ddiwedd arnat, a mi a anfonaf fy nig arnat ti; barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat. Fy llygad hefyd ni’th arbed di, ac ni thosturiaf: eithr rhoddaf dy ffyrdd arnat ti, a’th ffieidd‐dra fydd yn dy ganol di: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Drwg, drwg unig, wele, a ddaeth. Diwedd a ddaeth, daeth diwedd: y mae yn gwylio amdanat; wele, efe a ddaeth. Daeth y boregwaith atat, breswylydd y tir: daeth yr amser, agos yw y dydd terfysg, ac nid atsain mynyddoedd. Weithian ar fyrder y tywalltaf fy llid arnat, ac y gorffennaf fy nig wrthyt: barnaf di hefyd yn ôl dy ffyrdd, a rhoddaf dy holl ffieidd‐dra arnat. A’m llygad nid arbed, ac ni thosturiaf: rhoddaf arnat yn ôl dy ffyrdd, a’th ffieidd‐dra a fydd yn dy ganol di; a chewch wybod mai myfi yr Arglwydd sydd yn taro. 10 Wele y dydd, wele efe yn dyfod: y boregwaith a aeth allan; blodeuodd y wialen, blagurodd balchder. 11 Cyfododd traha yn wialen drygioni: ni bydd un ohonynt, nac o’u lliaws, nac o’r eiddynt, na galar drostynt. 12 Yr amser a ddaeth, y dydd a nesaodd: na lawenyched y prynwr, ac na thristaed y gwerthwr: canys mae dicllonedd ar ei holl liaws hi. 13 Canys y gwerthydd ni ddychwel at yr hyn a werthwyd, er eu bod eto yn fyw: oblegid y weledigaeth sydd am ei holl liaws, y rhai ni ddychwelant: ac nid ymgryfha neb yn anwiredd ei fuchedd. 14 Utganasant yr utgorn, i baratoi pawb: eto nid â neb i’r rhyfel; am fod fy nicllonedd yn erbyn eu holl liaws. 15 Y cleddyf fydd oddi allan, yr haint hefyd a’r newyn o fewn: yr hwn fyddo yn y maes, a fydd farw gan gleddyf; a’r hwn a fyddo yn y ddinas, newyn a haint a’i difa ef.

16 Eto eu rhai dihangol hwy a ddihangant, ac ar y mynyddoedd y byddant hwy i gyd fel colomennod y dyffryn, yn griddfan, bob un am ei anwiredd. 17 Yr holl ddwylo a laesant, a’r holl liniau a ânt yn ddwfr. 18 Ymwregysant hefyd mewn sachliain, ac arswyd a’u toa hwynt; a bydd cywilydd ar bob wyneb, a moelni ar eu holl bennau hwynt. 19 Eu harian a daflant i’r heolydd, a’u haur a roir heibio: eu harian na’u haur ni ddichon eu gwared hwynt yn nydd dicter yr Arglwydd: eu henaid ni ddiwallant, a’u coluddion ni lanwant: oherwydd tramgwydd eu hanwiredd ydyw.

20 A thegwch ei harddwch ef a osododd efe yn rhagoriaeth: ond gwnaethant ynddo ddelwau eu ffieidd‐dra a’u brynti: am hynny y rhoddais ef ymhell oddi wrthynt. 21 Ac mi a’i rhoddaf yn llaw dieithriaid yn ysbail, ac yn anrhaith i rai drygionus y tir; a hwy a’i halogant ef. 22 Troaf hefyd fy wyneb oddi wrthynt, a halogant fy nirgelfa: ie, anrheithwyr a ddaw iddi, ac a’i halogant.

23 Gwna gadwyn; canys llanwyd y tir o farn waedlyd, a’r ddinas sydd lawn o drais. 24 Am hynny y dygaf rai gwaethaf y cenhedloedd, fel y meddiannont eu tai hwynt: gwnaf hefyd i falchder y cedyrn beidio; a’u cysegroedd a halogir. 25 Y mae dinistr yn dyfod; a hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt. 26 Daw trychineb ar drychineb, a bydd chwedl ar chwedl: yna y ceisiant weledigaeth gan y proffwyd; ond cyfraith a gyll gan yr offeiriad, a chyngor gan yr henuriaid. 27 Y brenin a alara, a’r tywysog a wisgir ag anrhaith, a dwylo pobl y tir a drallodir: gwnaf â hwynt yn ôl eu ffordd, ac â’u barnedigaethau y barnaf hwynt; fel y gwybyddont mai myfi yw yr Arglwydd.