Add parallel Print Page Options

48 A dyma enwau y llwythau. O gwr y gogledd ar duedd ffordd Hethlon, ffordd yr eir i Hamath, Hasar‐enan, terfyn Damascus tua’r gogledd, i duedd Hamath, (canys y rhai hyn oedd ei derfynau dwyrain a gorllewin,) rhan i Dan. Ac ar derfyn Dan, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Aser. Ac ar derfyn Aser, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Nafftali ran. Ac ar derfyn Nafftali, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Manasse ran. Ac ar derfyn Manasse, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Effraim ran. Ac ar derfyn Effraim, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Reuben ran. Ac ar derfyn Reuben, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, i Jwda ran.

Ac ar derfyn Jwda, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd yr offrwm a offrymoch yn bum mil ar hugain o gorsennau o led, ac o hyd fel un o’r rhannau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin; a’r cysegr fydd yn ei ganol. Yr offrwm a offrymoch i’r Arglwydd fydd bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led. 10 Ac eiddo y rhai hyn fydd yr offrwm cysegredig, sef eiddo yr offeiriaid, fydd pum mil ar hugain tua’r gogledd o hyd, a dengmil tua’r gorllewin o led; felly dengmil tua’r dwyrain o led, a phum mil ar hugain tua’r deau o hyd: a chysegr yr Arglwydd fydd yn ei ganol. 11 I’r offeiriaid cysegredig o feibion Sadoc y bydd, y rhai a gadwasant fy nghadwraeth, y rhai ni chyfeiliornasant pan gyfeiliornodd plant Israel, megis y cyfeiliornodd y Lefiaid. 12 A bydd eiddynt yr hyn a offrymir o offrwm y tir, yn sancteiddbeth cysegredig wrth derfyn y Lefiaid. 13 A’r Lefiaid a gânt, ar gyfer terfyn yr offeiriaid, bum mil ar hugain o hyd, a dengmil o led: pob hyd fydd bum mil ar hugain, a’r lled yn ddengmil. 14 Hefyd ni werthant ddim ohono, ac ni chyfnewidiant, ac ni throsglwyddant flaenffrwyth y tir; oherwydd cysegredig yw i’r Arglwydd.

15 A’r pum mil gweddill o’r lled, ar gyfer y pum mil ar hugain, fydd digysegredig, yn drigfa ac yn faes pentrefol i’r ddinas; a’r ddinas fydd yn ei ganol. 16 A dyma ei fesurau ef; Ystlys y gogledd fydd bum cant a phedair mil, ac ystlys y deau yn bum cant a phedair mil, felly o du y dwyrain yn bum cant a phedair mil, a thua’r gorllewin yn bum cant a phedair mil. 17 A maes pentrefol y ddinas fydd hefyd tua’r gogledd yn ddeucant a deg a deugain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r deau, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r dwyrain, ac yn ddeucant a deg a deugain tua’r gorllewin. 18 A’r gweddill o’r hyd, ar gyfer offrwm y rhan gysegredig, fydd yn ddengmil tua’r dwyrain, ac yn ddengmil tua’r gorllewin: ac ar gyfer offrwm y rhan gysegredig y bydd; a’i gnwd fydd yn ymborth i weinidogion y ddinas. 19 A gweinidogion y ddinas a’i gwasanaethant o holl lwythau Israel. 20 Yr holl offrwm fydd bum mil ar hugain, wrth bum mil ar hugain: yn bedeirongl yr offrymwch yr offrwm cysegredig, gyda pherchenogaeth y ddinas.

21 A’r hyn a adewir fydd i’r tywysog, oddeutu yr offrwm cysegredig, ac o berchenogaeth y ddinas, ar gyfer y pum mil ar hugain o’r offrwm tua therfyn y dwyrain, a thua’r gorllewin, ar gyfer y pum mil ar hugain tua therfyn y gorllewin, gyferbyn â rhannau y tywysog: a’r offrwm cysegredig fydd; a chysegrfa y tŷ fydd yng nghanol hynny. 22 Felly o berchenogaeth y Lefiaid, ac o berchenogaeth y ddinas, yng nghanol yr hyn sydd i’r tywysog rhwng terfyn Jwda a therfyn Benjamin, eiddo y tywysog fydd. 23 Ac am y rhan arall o’r llwythau, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Benjamin. 24 Ac ar derfyn Benjamin, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, y bydd rhan i Simeon. 25 Ac ar derfyn Simeon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Issachar. 26 Ac ar derfyn Issachar, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Sabulon. 27 Ac ar derfyn Sabulon, o du y dwyrain hyd du y gorllewin, rhan i Gad. 28 Ac ar derfyn Gad, ar y tu deau tua’r deau, y terfyn fydd o Tamar hyd ddyfroedd cynnen Cades, a hyd yr afon tua’r môr mawr. 29 Dyma y tir a rennwch wrth goelbren yn etifeddiaeth i lwythau Israel, a dyma eu rhannau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

30 Dyma hefyd fynediad allan y ddinas, o du y gogledd pum cant a phedair mil o fesurau. 31 A phyrth y ddinas fydd ar enwau llwythau Israel: tri phorth tua’r gogledd; porth Reuben yn un, porth Jwda yn un, porth Lefi yn un. 32 Ac ar du y dwyrain pum cant a phedair mil: a thri phorth; sef porth Joseff yn un, porth Benjamin yn un, porth Dan yn un. 33 A thua’r deau pum cant a phedair mil o fesurau: a thri phorth; porth Simeon yn un, a phorth Issachar yn un, a phorth Sabulon yn un. 34 Tua’r gorllewin y bydd pum cant a phedair mil, a’u tri phorth; porth Gad yn un, porth Aser yn un, a phorth Nafftali yn un. 35 Deunaw mil o fesurau oedd hi o amgylch: ac enw y ddinas o’r dydd hwnnw allan fydd, Yr Arglwydd sydd yno.