Add parallel Print Page Options

42 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua’r gogledd; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd. Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain. Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder. Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a’u drysau tua’r gogledd. A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn, na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth. Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny. A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd. Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd. Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan. 10 O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd. 11 A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt. 12 Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.

13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr Arglwydd, y pethau sanctaidd cysegredig: yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig, a’r bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd. 14 A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o’r cysegr i’r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt; am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgant wisgoedd eraill, ac a nesânt at yr hyn a berthyn i’r bobl. 15 Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a’m dug i tua’r porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a’i mesurodd ef o amgylch ogylch. 16 Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 17 Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 18 Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.

19 Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur. 20 Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr.