Add parallel Print Page Options

34 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Proffwyda, fab dyn, yn erbyn bugeiliaid Israel; proffwyda, a dywed wrthynt, wrth y bugeiliaid, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae fugeiliaid Israel y rhai sydd yn eu porthi eu hunain: oni phortha y bugeiliaid y praidd? Y braster a fwytewch, a’r gwlân a wisgwch, y bras a leddwch; ond ni phorthwch y praidd. Ni chryfhasoch y rhai llesg, ac ni feddyginiaethasoch y glaf, ni rwymasoch y ddrylliedig chwaith, a’r gyfeiliornus ni ddygasoch adref, a’r golledig ni cheisiasoch; eithr llywodraethasoch hwynt â thrais ac â chreulondeb. A hwy a wasgarwyd o eisiau bugail: a buant yn ymborth i holl fwystfilod y maes, pan wasgarwyd hwynt. Fy nefaid a grwydrasant ar hyd yr holl fynyddoedd, ac ar bob bryn uchel: ie, gwasgarwyd fy mhraidd ar hyd holl wyneb y ddaear, ac nid oedd a’u ceisiai, nac a ymofynnai amdanynt.

Am hynny, fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd. Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, am fod fy mhraidd yn ysbail, a bod fy mhraidd yn ymborth i holl fwystfilod y maes, o eisiau bugail, ac na cheisiodd fy mugeiliaid fy mhraidd, eithr y bugeiliaid a’u porthasant eu hun, ac ni phorthasant fy mhraidd: Am hynny, O fugeiliaid, gwrandewch air yr Arglwydd. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn y bugeiliaid: a gofynnaf fy mhraidd ar eu dwylo hwynt, a gwnaf iddynt beidio â phorthi y praidd; a’r bugeiliaid ni phorthant eu hun mwy: canys gwaredaf fy mhraidd o’u safn hwy, fel na byddont yn ymborth iddynt.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele myfi, ie, myfi a ymofynnaf am fy mhraidd, ac a’u ceisiaf hwynt. 12 Fel y cais bugail ei ddiadell ar y dydd y byddo ymysg ei ddefaid gwasgaredig, felly y ceisiaf finnau fy nefaid, ac a’u gwaredaf hwynt o bob lle y gwasgarer hwynt iddo ar y dydd cymylog a thywyll. 13 A dygaf hwynt allan o fysg y bobloedd, a chasglaf hwynt o’r tiroedd, a dygaf hwynt i’w tir eu hun, a phorthaf hwynt ar fynyddoedd Israel wrth yr afonydd, ac yn holl drigfannau y wlad. 14 Mewn porfa dda y porthaf hwynt, ac ar uchel fynyddoedd Israel y bydd eu corlan hwynt: yno y gorweddant mewn corlan dda, ie, mewn porfa fras y porant ar fynyddoedd Israel. 15 Myfi a borthaf fy mhraidd, a myfi a’u gorweddfâf hwynt, medd yr Arglwydd Dduw. 16 Y golledig a geisiaf, a’r darfedig a ddychwelaf, a’r friwedig a rwymaf, a’r lesg a gryfhaf: eithr dinistriaf y fras a’r gref; â barn y porthaf hwynt. 17 Chwithau, fy mhraidd, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Wele fi yn barnu rhwng milyn a milyn, rhwng yr hyrddod a’r bychod. 18 Ai bychan gennych bori ohonoch y borfa dda, oni bydd i chwi sathru dan eich traed y rhan arall o’ch porfeydd? ac yfed ohonoch y dyfroedd dyfnion, oni bydd i chwi sathru y rhan arall â’ch traed? 19 A’m praidd i, y maent yn pori sathrfa eich traed chwi; a mathrfa eich traed a yfant.

20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrthynt hwy; Wele myfi, ie, myfi a farnaf rhwng milyn bras a milyn cul. 21 Oherwydd gwthio ohonoch ag ystlys ac ag ysgwydd, a chornio ohonoch â’ch cyrn y rhai llesg oll, hyd oni wasgarasoch hwynt allan: 22 Am hynny y gwaredaf fy mhraidd, fel na byddont mwy yn ysbail; a barnaf rhwng milyn a milyn. 23 Cyfodaf hefyd un bugail arnynt, ac efe a’u portha hwynt, sef fy ngwas Dafydd; efe a’u portha hwynt, ac efe a fydd yn fugail iddynt. 24 A minnau yr Arglwydd a fyddaf yn Dduw iddynt, a’m gwas Dafydd yn dywysog yn eu mysg: myfi yr Arglwydd a leferais hyn. 25 Gwnaf hefyd â hwynt gyfamod heddwch, a gwnaf i’r bwystfil drwg beidio o’r tir: a hwy a drigant yn ddiogel yn yr anialwch, ac a gysgant yn y coedydd. 26 Hwynt hefyd ac amgylchoedd fy mryn a wnaf yn fendith: a gwnaf i’r glaw ddisgyn yn ei amser; cawodydd bendith a fydd. 27 A rhydd pren y maes ei ffrwyth, a’r tir a rydd ei gynnyrch, a byddant yn eu tir eu hun mewn diogelwch, ac a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan dorrwyf rwymau eu hiau hwynt, a’u gwared hwynt o law y rhai oedd yn mynnu gwasanaeth ganddynt. 28 Ac ni byddant mwyach yn ysbail i’r cenhedloedd, a bwystfil y tir nis bwyty hwynt; eithr trigant mewn diogelwch, ac ni bydd a’u dychryno. 29 Cyfodaf iddynt hefyd blanhigyn enwog, ac ni byddant mwy wedi trengi o newyn yn y tir, ac ni ddygant mwy waradwydd y cenhedloedd. 30 Fel hyn y cânt wybod mai myfi yr Arglwydd eu Duw sydd gyda hwynt, ac mai hwythau, tŷ Israel, yw fy mhobl i, medd yr Arglwydd Dduw. 31 Chwithau, fy mhraidd, defaid fy mhorfa, dynion ydych chwi, myfi yw eich Duw chwi, medd yr Arglwydd Dduw.