Add parallel Print Page Options

25 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf gan ddywedyd, Ha fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn meibion Ammon, a phroffwyda yn eu herbyn hwynt; A dywed wrth feibion Ammon, Gwrandewch air yr Arglwydd Dduw; Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am ddywedyd ohonot, Ha, ha, yn erbyn fy nghysegr, pan halogwyd; ac yn erbyn tir Israel, pan anrheithiwyd; ac yn erbyn tŷ Jwda, pan aethant mewn caethglud: Am hynny wele fi yn dy roddi di yn etifeddiaeth i feibion y dwyrain, fel y gosodant eu palasau ynot, ac y gosodant eu pebyll o’th fewn: hwy a ysant dy ffrwyth, a hwy a yfant dy laeth. Rhoddaf hefyd Rabba yn drigfa camelod, a meibion Ammon yn orweddfa defaid: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd taro ohonot dy ddwylo, a churo ohonot â’th draed, a llawenychu ohonot yn dy galon â’th holl ddirmyg yn erbyn tir Israel; Am hynny wele, mi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th roddaf yn fwyd i’r cenhedloedd, ac a’th dorraf ymaith o fysg y bobloedd, ac a’th ddifethaf o’r tiroedd: dinistriaf di; fel y gwypech mai myfi yw yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am ddywedyd o Moab a Seir, Wele dŷ Jwda fel yr holl genhedloedd: Am hynny wele fi yn agori ystlys Moab o’r dinasoedd, o’i ddinasoedd ef y rhai sydd yn ei gyrrau, gogoniant y wlad, Beth‐jesimoth, Baal‐meon, a Ciriathaim, 10 I feibion y dwyrain ynghyd â meibion Ammon, a rhoddaf hwynt yn etifeddiaeth; fel na chofier meibion Ammon ymysg y cenhedloedd. 11 Gwnaf farn hefyd ar Moab; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am i Edom wneuthur yn erbyn tŷ Jwda wrth wneuthur dial, a gwneuthur camwedd mawr, ac ymddial arnynt; 13 Am hynny, medd yr Arglwydd Dduw, yr estynnaf finnau fy llaw ar Edom, a thorraf ohoni ddyn ac anifail; a gwnaf hi yn anrhaith o Teman; a’r rhai o Dedan a syrthiant gan y cleddyf. 14 A rhoddaf fy nialedd ar yr Edomiaid trwy law fy mhobl Israel: a hwy a wnânt ag Edom yn ôl fy nicllonedd, ac yn ôl fy llid; fel y gwypont fy nialedd, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am wneuthur o’r Philistiaid trwy ddial, a dialu dial trwy ddirmyg calon, i’w dinistrio am yr hen gas; 16 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn estyn fy llaw ar y Philistiaid, a thorraf ymaith y Cerethiaid, a difethaf weddill porthladd y môr. 17 A gwnaf arnynt ddialedd mawr trwy gerydd llidiog: a chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf fy nialedd arnynt.