Add parallel Print Page Options

22 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, Tithau, fab dyn, a ferni di, a ferni ddinas y gwaed? ie, ti a wnei iddi wybod ei holl ffieidd‐dra. Dywed dithau, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tywallt gwaed y mae y ddinas yn ei chanol, i ddyfod o’i hamser, ac eilunod a wnaeth hi yn ei herbyn ei hun i ymhalogi. Euog wyt yn dy waed, yr hwn a dywelltaist; a halogedig yn dy eilunod, y rhai a wnaethost; a thi a neseaist dy ddyddiau, a daethost hyd at dy flynyddoedd: am hynny y’th wneuthum yn warth i’r cenhedloedd, ac yn watwargerdd i’r holl wledydd. Y rhai agos a’r rhai pell oddi wrthyt a’th watwarant, yr halogedig o enw, ac aml dy drallod. Wele, tywysogion Israel oeddynt ynot, bob un yn ei allu i dywallt gwaed. Dirmygasant ynot dad a mam; gwnaethant yn dwyllodrus â’r dieithr o’th fewn: gorthrymasant ynot yr amddifad a’r weddw. Dirmygaist fy mhethau sanctaidd, a halogaist fy Sabothau. Athrodwyr oedd ynot i dywallt gwaed; ar y mynyddoedd hefyd y bwytasant ynot ti: gwnânt ysgelerder o’th fewn. 10 Ynot ti y datguddient noethni eu tad: yr aflan o fisglwyf a ddarostyngent ynot. 11 Gwnâi ŵr hefyd ffieidd‐dra â gwraig ei gymydog; a gŵr a halogai ei waudd ei hun mewn ysgelerder; ie, darostyngai gŵr ynot ei chwaer ei hun, merch ei dad. 12 Gwobr a gymerent ynot am dywallt gwaed; cymeraist usuriaeth ac ocraeth, ac elwaist ar dy gymdogion trwy dwyll, ac anghofiaist fi, medd yr Arglwydd Dduw.

13 Am hynny wele, trewais fy llaw wrth dy gybydd‐dod yr hwn a wnaethost, ac am y gwaed oedd o’th fewn. 14 A bery dy galon, a gryfha dy ddwylo, yn y dyddiau y bydd i mi a wnelwyf â thi? myfi yr Arglwydd a’i lleferais, ac a’i gwnaf. 15 Canys gwasgaraf di ymysg y cenhedloedd, a thaenaf di ar hyd y gwledydd, a gwnaf i’th aflendid ddarfod allan ohonot. 16 A thi a etifeddi ynot dy hun yng ngŵydd y cenhedloedd: a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 17 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt. 19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem. 20 Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i’w toddi; felly yn fy llid a’m dig y casglaf chwi, ac a’ch gadawaf yno, ac a’ch toddaf. 21 Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi. 22 Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.

23 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 24 Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter. 25 Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn. 26 Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt. 27 Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw. 28 Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a’r Arglwydd heb ddywedyd. 29 Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a’r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn. 30 Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais. 31 Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.