Add parallel Print Page Options

21 Adaeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Gosod dy wyneb, fab dyn, tua Jerwsalem, a difera dy eiriau tua’r cysegroedd, a phroffwyda yn erbyn gwlad Israel, A dywed wrth wlad Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi i’th erbyn, tynnaf hefyd fy nghleddyf o’i wain, a thorraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn. Oherwydd y torraf ohonot gyfiawn ac anghyfiawn, am hynny y daw fy nghleddyf allan o’i wain yn erbyn pob cnawd, o’r deau hyd y gogledd; Fel y gwypo pob cnawd i mi yr Arglwydd dynnu fy nghleddyf allan o’i wain: ni ddychwel efe mwy. Ochain dithau, fab dyn, gydag ysictod lwynau; ie, ochain yn chwerw yn eu golwg hwynt. A bydd, pan ddywedant wrthyt, Am ba beth yr ydwyt yn ochain? yna ddywedyd ohonot, Am y chwedl newydd, am ei fod yn dyfod, fel y toddo pob calon, ac y llaeso y dwylo oll, ac y pallo pob ysbryd, a’r gliniau oll a ânt fel dwfr; wele efe yn dyfod, ac a fydd, medd yr Arglwydd Dduw.

A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dywed, Cleddyf, cleddyf a hogwyd, ac a loywyd. 10 Efe a hogwyd i ladd lladdfa, efe a loywyd fel y byddai ddisglair: a lawenychwn ni? y mae efe yn dirmygu gwialen fy mab, fel pob pren. 11 Ac efe a’i rhoddes i’w loywi, i’w ddal mewn llaw; y cleddyf hwn a hogwyd, ac a loywyd, i’w roddi yn llaw y lleiddiad. 12 Gwaedda ac uda, fab dyn; canys hwn fydd ar fy mhobl, hwn fydd yn erbyn holl dywysogion Israel; dychryn gan y cleddyf fydd ar fy mhobl: am hynny taro law ar forddwyd. 13 Canys profiad yw; a pheth os y cleddyf a ddiystyra y wialen? ni bydd efe mwy, medd yr Arglwydd Dduw. 14 Tithau, fab dyn, proffwyda, a tharo law wrth law, a dybler y cleddyf y drydedd waith: cleddyf y lladdedigion, cleddyf lladdedigaeth y gwŷr mawr ydyw, yn myned i’w hystafelloedd hwynt. 15 Rhoddais flaen y cleddyf yn erbyn eu holl byrth hwynt, i doddi eu calon, ac i amlhau eu tramgwyddiadau: O, gwnaed ef yn loyw, hogwyd ef i ladd! 16 Dos ryw ffordd, naill ai ar y llaw ddeau, ai ar y llaw aswy, lle y tueddo dy wyneb. 17 Minnau hefyd a drawaf y naill law yn y llall, ac a lonyddaf fy llid: myfi yr Arglwydd a’i lleferais.

18 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 19 Tithau, fab dyn, gosod i ti ddwy ffordd, fel y delo cleddyf brenin Babilon; o un tir y deuant ill dwy: a dewis le, ym mhen ffordd y ddinas y dewisi ef. 20 Gosod ffordd i ddyfod o’r cleddyf tua Rabbath meibion Ammon, a thua Jwda yn erbyn Jerwsalem gaerog. 21 Canys safodd brenin Babilon ar y groesffordd, ym mhen y ddwyffordd, i ddewinio dewiniaeth: gloywodd ei saethau, ymofynnodd â delwau, edrychodd mewn afu. 22 Yn ei law ddeau yr oedd dewiniaeth Jerwsalem, am osod capteiniaid i agoryd safn mewn lladdedigaeth, i ddyrchafu llef gyda bloedd, i osod offer rhyfel yn erbyn y pyrth, i fwrw clawdd, i adeiladu amddiffynfa. 23 A hyn fydd ganddynt, fel dewinio dewiniaeth gwagedd yn eu golwg hwynt, i’r rhai a dyngasant lwon: ond efe a gofia yr anwiredd, i’w dal hwynt. 24 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am beri ohonoch gofio eich anwiredd, gan amlygu eich camweddau, fel yr ymddengys eich pechodau yn eich holl weithredoedd; am beri ohonoch eich cofio, y’ch delir â llaw.

25 Tithau, halogedig annuwiol dywysog Israel, yr hwn y daeth ei ddydd, yn amser diwedd anwiredd, 26 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Symud y meitr, a thyn ymaith y goron; nid yr un fydd hon: cyfod yr isel, gostwng yr uchel. 27 Dymchwelaf, dymchwelaf, dymchwelaf hi; ac ni bydd mwyach hyd oni ddelo yr hwn y mae yn gyfiawn iddo; ac iddo ef y rhoddaf hi.

28 Proffwyda dithau, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am feibion Ammon, ac am eu gwaradwydd hwynt; dywed di, Y cleddyf, y cleddyf a dynnwyd: i ladd y gloywyd ef, i ddifetha oherwydd y disgleirdeb: 29 Wrth weled gwagedd i ti, wrth ddewinio i ti gelwydd, i’th roddi ar yddfau y lladdedigion, y drygionus y rhai y daeth eu dydd, yn amser diwedd eu hanwiredd.

30 A ddychwelaf fi ef i’w wain? yn y lle y’th grewyd, yn nhir dy gynefin, y’th farnaf. 31 A thywalltaf fy nicllonedd arnat, â thân fy llidiowgrwydd y chwythaf arnat, a rhoddaf di yn llaw dynion poethion, cywraint i ddinistrio. 32 I’r tân y byddi yn ymborth; dy waed fydd yng nghanol y tir; ni’th gofir mwyach: canys myfi yr Arglwydd a’i dywedais.