Add parallel Print Page Options

30 Geiriau Agur mab Jace, sef y broffwydoliaeth: y gŵr a lefarodd wrth Ithiel, wrth Ithiel, meddaf, ac Ucal. Yn wir yr ydwyf yn ffolach na neb, ac nid oes deall dyn gennyf. Ni ddysgais ddoethineb, ac nid oes gennyf wybodaeth y sanctaidd. Pwy a esgynnodd i’r nefoedd, neu a ddisgynnodd? pwy a gasglodd y gwynt yn ei ddyrnau? pwy a rwymodd y dyfroedd mewn dilledyn? pwy a gadarnhaodd holl derfynau y ddaear? beth yw ei enw ef, a pheth yw enw ei fab, os gwyddost? Holl air Duw sydd bur: tarian yw efe i’r neb a ymddiriedant ynddo. Na ddyro ddim at ei eiriau ef, rhag iddo dy geryddu, a’th gael yn gelwyddog. Dau beth yr ydwyf yn eu gofyn gennyt, na omedd hwynt i mi cyn fy marw. Tyn ymhell oddi wrthyf wagedd a chelwydd; na ddyro i mi na thlodi na chyfoeth; portha fi â’m digonedd o fara. Rhag i mi ymlenwi, a’th wadu di, a dywedyd, Pwy yw yr Arglwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lladrata, a chymryd enw fy Nuw yn ofer. 10 Nac achwyn ar was wrth ei feistr, rhag iddo dy felltithio, a’th gael yn euog. 11 Y mae cenhedlaeth a felltithia ei thad, a’i mam ni fendithia. 12 Y mae cenhedlaeth lân yn ei golwg ei hun, er nas glanhawyd oddi wrth ei haflendid. 13 Y mae cenhedlaeth, O mor uchel yw ei llygaid! a’i hamrantau a ddyrchafwyd. 14 Y mae cenhedlaeth a’i dannedd yn gleddyfau, a’i childdannedd yn gyllyll, i ddifa y tlodion oddi ar y ddaear, a’r anghenus o blith dynion. 15 I’r gele y mae dwy ferch, yn llefain, Moes, moes. Tri pheth ni ddiwellir: ie, pedwar peth ni ddywedant byth, Digon: 16 Y bedd; y groth amhlantadwy; y ddaear ni ddiwellir â dyfroedd; a’r tân ni ddywed, Digon. 17 Llygad yr hwn a watwaro ei dad, ac a ddiystyro ufuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a’r cywion eryrod a’i bwyty. 18 Tri pheth sydd guddiedig i mi; ie, pedwar peth nid adwaen: 19 Ffordd eryr yn yr awyr, ffordd neidr ar graig, ffordd llong yng nghanol y môr, a ffordd gŵr gyda morwyn. 20 Felly y mae ffordd merch odinebus; hi a fwyty, ac a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wneuthum i anwiredd. 21 Oherwydd tri pheth y cynhyrfir y ddaear, ac oherwydd pedwar, y rhai ni ddichon hi eu dioddef: 22 Oherwydd gwas pan deyrnaso; ac un ffôl pan lanwer ef o fwyd; 23 Oherwydd gwraig atgas pan brioder hi; a llawforwyn a elo yn aeres i’w meistres. 24 Y mae pedwar peth bychain ar y ddaear, ac eto y maent yn ddoeth iawn: 25 Nid yw y morgrug bobl nerthol, eto y maent yn darparu eu lluniaeth yr haf; 26 Y cwningod nid ydynt bobl rymus, eto hwy a wnânt eu tai yn y graig; 27 Y locustiaid nid oes brenin iddynt, eto hwy a ânt allan yn dorfeydd; 28 Y pryf copyn a ymafaela â’i ddwylo, ac y mae yn llys y brenin. 29 Y mae tri pheth a gerddant yn hardd, ie, pedwar peth a rodiant yn weddus: 30 Llew cryf ymhlith anifeiliaid, ni thry yn ei ôl er neb; 31 Milgi cryf yn ei feingefn, a bwch, a brenin, yr hwn ni chyfyd neb yn ei erbyn. 32 Os buost ffôl yn ymddyrchafu, ac os meddyliaist ddrwg, dyro dy law ar dy enau. 33 Yn ddiau corddi llaeth a ddwg allan ymenyn, a gwasgu ffroenau a dynn allan waed: felly cymell llid a ddwg allan gynnen.