Add parallel Print Page Options

Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi; Fel y parech i’th glust wrando ar ddoethineb, ac y gogwyddech dy galon at ddeall; Ie, os gwaeddi ar ôl gwybodaeth, os cyfodi dy lef am ddeall; Os ceisi hi fel arian, os chwili amdani fel am drysorau cuddiedig; Yna y cei ddeall ofn yr Arglwydd, ac y cei wybodaeth o Dduw. Canys yr Arglwydd sydd yn rhoi doethineb: allan o’i enau ef y mae gwybodaeth a deall yn dyfod. Y mae ganddo ynghadw i’r rhai uniawn wir ddoethineb: tarian yw efe i’r sawl a rodiant yn uniawn. Y mae efe yn cadw llwybrau barn, ac yn cadw ffordd ei saint. Yna y cei di ddeall cyfiawnder, a barn, ac uniondeb, a phob llwybr daionus.

10 Pan ddelo doethineb i mewn i’th galon, a phan fyddo hyfryd gan dy enaid wybodaeth; 11 Yna cyngor a’th gynnal, a synnwyr a’th geidw: 12 I’th achub oddi wrth y ffordd ddrwg, ac oddi wrth y dyn a lefaro drawsedd; 13 Y rhai a ymadawant â llwybrau uniondeb, i rodio mewn ffyrdd tywyllwch; 14 Y rhai a ymlawenychant i wneuthur drwg, ac a ymddigrifant yn anwiredd y drygionus; 15 Y rhai sydd â’u ffyrdd yn geimion, ac yn gildyn yn eu llwybrau: 16 I’th wared oddi wrth y fenyw estronaidd, oddi wrth y ddieithr wenieithus ei geiriau; 17 Yr hon a ymedy â llywodraethwr ei hieuenctid, ac a ollwng dros gof gyfamod ei Duw. 18 Canys y mae ei thŷ yn gŵyro at angau, a’i llwybrau at y meirw. 19 Pwy bynnag a elo i mewn ati hi, ni ddychwelant, ac nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd. 20 Fel y rhodiech di ar hyd ffordd gwŷr da, a chadw llwybrau y cyfiawn. 21 Canys y gwŷr cyfiawn a breswyliant y ddaear, a’r rhai perffaith a gânt aros ynddi. 22 Ond yr annuwiolion a dorrir oddi ar y ddaear, a’r troseddwyr a ddiwreiddir allan ohoni.