Add parallel Print Page Options

18 Y Neilltuol a gais wrth ei ddeisyfiad ei hun, ac a ymyrra â phob peth. Y ffôl nid hoff ganddo ddeall; ond bod i’w galon ei datguddio ei hun. Wrth ddyfodiad y drygionus y daw diystyrwch, a chyda gogan, gwaradwydd. Geiriau yng ngenau gŵr sydd fel dyfroedd dyfnion; a ffynnon doethineb sydd megis afon yn llifo. Nid da derbyn wyneb yr annuwiol, i ddymchwelyd y cyfiawn mewn barn. Gwefusau y ffôl a ânt i mewn i gynnen, a’i enau a eilw am ddyrnodiau. Genau y ffôl yw ei ddinistr, a’i wefusau sydd fagl i’w enaid. Geiriau yr hustyngwr sydd megis archollion, ac a ddisgynnant i gilfachau y bol. Y neb a fyddo diog yn ei waith, sydd frawd i’r treulgar. 10 Tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd: ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel. 11 Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun. 12 Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydedd y bydd gostyngeiddrwydd. 13 Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo. 14 Ysbryd gŵr a gynnal ei glefyd ef: ond ysbryd cystuddiedig pwy a’i cyfyd? 15 Calon y pwyllog a berchenoga wybodaeth; a chlust y doethion a gais wybodaeth. 16 Rhodd dyn a ehanga arno, ac a’i dwg ef gerbron penaethiaid. 17 Y cyntaf yn ei hawl a dybir ei fod yn gyfiawn: ond ei gymydog a ddaw ac a’i chwilia ef. 18 Y coelbren a wna i gynhennau beidio, ac a athrywyn rhwng cedyrn. 19 Anos yw ennill ewyllys da brawd pan ddigier, na dinas gadarn: a’u hymryson sydd megis trosol castell. 20 A ffrwyth genau gŵr y diwellir ei fol; ac o ffrwyth y gwefusau y digonir ef. 21 Angau a bywyd sydd ym meddiant y tafod: a’r rhai a’i hoffant ef a fwytânt ei ffrwyth ef. 22 Y neb sydd yn cael gwraig, sydd yn cael peth daionus, ac yn cael ffafr gan yr Arglwydd. 23 Y tlawd a ymbil; a’r cyfoethog a etyb yn erwin. 24 Y neb y mae iddo gyfeillion, cadwed gariad: ac y mae cyfaill a lŷn wrthyt yn well na brawd.