Add parallel Print Page Options

17 Gwell yw tamaid sych a llonyddwch gydag ef, na thŷ yn llawn o aberthau gydag ymryson. Gwas synhwyrol a feistrola ar fab gwaradwyddus; ac a gaiff ran o’r etifeddiaeth ymhlith y brodyr. Y tawddlestr sydd i’r arian, a’r ffwrn i’r aur: ond yr hwn a brawf y calonnau yw yr Arglwydd. Y drygionus a wrendy ar wefus anwir: a’r celwyddog a rydd glust i dafod drwg. Y neb a watwaro y tlawd, sydd yr gwaradwyddo ei Wneuthurwr ef: a’r neb a ymddigrifo mewn cystudd, ni bydd dieuog. Coron yr hynafgwyr yw eu hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau. Anweddaidd yw i ffôl ymadrodd rhagorol; mwy o lawer i bendefig wefusau celwyddog. Maen gwerthfawr yw anrheg yng ngolwg ei pherchennog: pa le bynnag y tro, hi a ffynna. Y neb a guddia bechod, sydd yn ceisio cariad: ond y neb a adnewydda fai, sydd yn neilltuo tywysogion. 10 Un sen a ofna y call yn fwy na phe baeddid y ffôl ganwaith. 11 Y dyn drwg sydd â’i fryd ar derfysg yn unig: a chennad greulon a anfonir yn ei erbyn ef. 12 Gwell i ŵr gyfarfod ag arthes wedi colli ei chenawon, nag â’r ffôl yn ei ffolineb. 13 Y neb a dalo ddrwg dros dda, nid ymedy drwg â’i dŷ ef. 14 Pen y gynnen sydd megis ped agorid argae: am hynny gad ymaith ymryson cyn ymyrryd arni. 15 Y neb a gyfiawnhao y drygionus, ac a gondemnio y gwirion; ffiaidd gan yr Arglwydd ydynt ill dau. 16 Paham y bydd gwerth yn llaw y ffôl i berchenogi doethineb, ac yntau heb galon ganddo? 17 Cydymaith a gâr bob amser: a brawd a anwyd erbyn caledi. 18 Dyn heb bwyll a dery ei law, ac a fachnïa o flaen ei gyfaill. 19 Y neb sydd hoff ganddo ymsennu, sydd hoff ganddo bechod; a’r hwn sydd yn gwneuthur ei ddrws yn uchel, sydd yn ceisio niwed. 20 Y cyndyn ei galon ni chaiff ddaioni: a’r hwn sydd drofaus yn ei dafod, a syrth i ddrwg. 21 Y neb a genhedlo un ffôl, a ennill iddo ei hun dristwch: ac ni bydd lawen tad yr ynfyd. 22 Calon lawen a wna les fel meddyginiaeth: ond meddwl trwm a sych yr esgyrn. 23 Yr annuwiol a dderbyn rodd o’r fynwes, i gamdroi llwybrau barn. 24 Doethineb sydd yn wyneb y deallgar: ond llygaid y ffyliaid sydd yng nghyrrau y byd. 25 Mab ffôl a bair ddicllonedd i’w dad, a chwerwder i’w fam. 26 Hefyd nid da cosbi y cyfiawn, na tharo penaethiaid, pan fyddant ar yr iawn. 27 Gŵr synhwyrol a atal ei ymadroddion: a gŵr pwyllog sydd ymarhous ei ysbryd. 28 Y ffôl, tra tawo, a gyfrifir yn ddoeth; a’r neb a gaeo ei wefusau, yn ddeallus.