Add parallel Print Page Options

13 Mab doeth a wrendy ar athrawiaeth ei dad: ond gwatwarwr ni wrendy ar gerydd. Gŵr a fwynha ddaioni o ffrwyth ei enau: ac enaid yr anghyfiawn a fwynha drawsedd. Y neb a geidw ei enau, a geidw ei einioes: ond y neb a ledo ei wefusau, a ddinistrir. Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim: ond enaid y diwyd a wneir yn fras. Cas gan y cyfiawn gelwydd: ond y drygionus sydd ffiaidd, ac a ddaw i gywilydd. Cyfiawnder a geidw y perffaith yn ei ffordd: ond annuwioldeb a ddymchwel y pechadur. Rhyw un a ymffrostia ei fod yn gyfoethog, ac heb ddim ganddo: ac arall ei fod yn dlawd, a chyfoeth lawer iddo. Iawn am einioes gŵr yw ei dda: ond y tlawd ni chlyw gerydd. Goleuni y cyfiawn a lawenha: ond cannwyll y drygionus a ddiffoddir. 10 Trwy falchedd yn unig y cyffry cynnen: ond gyda’r pwyllog y mae doethineb. 11 Golud a gasgler trwy oferedd, a leiheir; ond y neb a gasglo â’i law a chwanega. 12 Gobaith a oeder a wanha y galon: ond pren y bywyd yw deisyfiad, pan ddêl i ben. 13 Yr hwn a ddirmygo y gair, a ddifethir: ond yr hwn sydd yn ofni y gorchymyn, a obrwyir. 14 Cyfraith y doeth sydd ffynnon bywyd, i gilio oddi wrth faglau angau. 15 Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed. 16 Pob call a wna bethau trwy wybodaeth: ond yr ynfyd a ddengys ynfydrwydd. 17 Cennad annuwiol a syrth i ddrygioni; ond cennad ffyddlon sydd iechyd. 18 Tlodi a gwaradwydd fydd i’r hwn a wrthodo addysg: ond yr hwn a gadwo gerydd, a anrhydeddir. 19 Dymuniad wedi ei gyflawni, sydd felys gan yr enaid: ond ffiaidd gan ynfydion gilio oddi wrth ddrygioni. 20 Yr hwn a rodia gyda doethion, fydd doeth: ond yr hwn sydd gyfaill i ynfydion, a gystuddir. 21 Drygfyd a erlyn bechaduriaid: ond daioni a delir i’r rhai cyfiawn. 22 Y gŵr daionus a ad etifeddiaeth i feibion ei feibion: a golud y pechadur a roddwyd i gadw i’r cyfiawn. 23 Llawer o ymborth sydd ym maes y tlodion: ond y mae a ddinistrir o eisiau barn. 24 Yr hwn a arbedo y wialen, sydd yn casáu ei fab: ond yr hwn a’i câr ef, a’i cerydda mewn amser. 25 Y cyfiawn a fwyty hyd oni ddigoner ei enaid: ond bol yr annuwiolion fydd mewn eisiau.