Add parallel Print Page Options

33 Adyma’r fendith â’r hon y bendithiodd Moses gŵr Duw feibion Israel, cyn ei farwolaeth. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt. Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed; pob un a dderbyn o’th eiriau. Moses a orchmynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob. Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O Arglwydd, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.

Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a’th Urim i’th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba; Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a’i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod. 10 Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg‐aberth ar dy allor. 11 Bendithia, O Arglwydd, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn, a’i gaseion, fel na chodont.

12 Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.

13 Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod; 14 Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau, 15 Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb, 16 Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â’i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr. 17 Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf‐anedig ei ych, a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.

18 Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll. 19 Galwant bobloedd i’r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

20 Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen. 21 Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a’i farnedigaethau gydag Israel.

22 Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.

23 Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a’r deau.

24 Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew. 25 Haearn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26 Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a’r wybrennau yn ei fawredd. 27 Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed, Difetha ef. 28 Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith. 29 Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.