Add parallel Print Page Options

22 Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd. Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef. Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.

Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.

Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn.

Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda’r cywion. Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.

Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.

Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.

10 Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.

11 Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.

12 Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.

13 O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu; 14 A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod: 15 Yna cymered tad y llances a’i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth. 16 A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig, a’i chasáu y mae efe. 17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas. 18 A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef. 19 A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau. 20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances: 21 Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.

22 O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

23 O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi; 24 Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.

25 Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig. 26 Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn: 27 Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.

28 O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt: 29 Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.

30 Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.