Add parallel Print Page Options

20 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Aifft. A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl, A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt. Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.

A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef. A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi. A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi. Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau. A bydded, pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.

10 Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch. 11 A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu. 12 Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi. 13 Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf. 14 Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 15 Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn. 16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw: 17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 18 Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.

19 Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i’w gosod yn y gwarchglawdd. 20 Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.