Add parallel Print Page Options

14 Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.

Na fwyta ddim ffiaidd. Dyma’r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwyllt, a’r unicorn, a’r ych gwyllt, a’r afr wyllt. A phob anifail yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewin, aflan ydynt i chwi. Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi’r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.

Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch. 10 A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.

11 Pob aderyn glân a fwytewch. 12 A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr‐wennol, 13 A’r bod, a’r barcud, a’r fwltur yn ei rhyw, 14 A phob cigfran yn ei rhyw, 15 A chyw yr estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, 16 Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r gogfran, 17 A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran, 18 A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. 19 A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt. 20 Pob ehediad glân a fwytewch.

21 Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 22 Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. 23 A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser. 24 A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: 25 Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 26 A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu. 27 A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.

28 Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth. 29 A’r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.