Add parallel Print Page Options

10 Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Nadd i ti ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyred i fyny ataf fi i’r mynydd, a gwna i ti arch bren. A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod dithau hwynt yn yr arch. Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fyny i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw. Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y dengair, a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi. Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.

A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef. Oddi yno yr aethant i Gudgoda; ac o Gudgoda i Jotbath, tir afonydd dyfroedd

Yr amser hwnnw y neilltuodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i sefyll gerbron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn. Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda’i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef. 10 A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.

12 Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, 13 Cadw gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti? 14 Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi. 15 Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir. 16 Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach. 17 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. 18 Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi’r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad. 19 Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft. 20 Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i’w enw ef y tyngi. 21 Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid. 22 Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.